Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Ein Gwaith Ni
  3. Cefnogaeth i Ddioddefwyr Troseddau

Cefnogaeth i Ddioddefwyr Troseddau

Os ydych yn cysylltu â ni am eich bod wedi dioddef trosedd, rydym yn deall bod hyn yn gallu bod yn brofiad poenus iawn a all effeithio ar bobl mewn amryw o ffyrdd. Byddwn yn cydymffurfio â'r ymrwymiadau penodol yn y Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau.

Byddwn yn eich diweddaru'n rheolaidd am yr ymchwiliad i'ch achos. Byddwn yn dweud wrthych pan fydd y sawl a ddrwgdybir wedi'i arestio, ei gyhuddo a'i fechnïo, yn eich hysbysu am amodau'r fechnïaeth a chanlyniad yr achos. Yn achos llofruddiaeth neu ddynladdiad, byddwn yn penodi swyddog cyswllt teulu i ofalu am deulu'r dioddefydd. Pan fyddwch yn riportio trosedd byddwn yn rhoi eich manylion cysylltu i Gymorth i Ddioddefwyr (oni fyddwch yn gofyn i ni beidio).

Byddwn yn gwneud popeth o fewn rheswm i adnabod dioddefwyr bregus neu ddioddefwyr ofnus ac yn cynnig gwasanaeth ychwanegol iddynt.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.

Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau

Côd Ymarfer: Canllaw i Ddioddefwyr (gwefan y System Gyfiawnder Troseddol, PDF - 789 kB)

Côd Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Troseddau (fersiwn llawn) yn cynnwys gwybodaeth am ddioddefwyr bregus neu ddioddefwyr ofnus (wefan y Swyddfa Gartref, Saesneg yn unig)

Côd y Dioddefwyr: Sut mae cwyno (wefan yr Ombwdsmon)

Taflen Dioddefwyr Troseddau

Dioddefwyr Troseddau – Cymorth a Chyngor (gwefan y System Gyfiawnder Troseddol, PDF - 80 kB)

Dioddefwyr Troseddau – cefnogaeth a chyngor mewn ieithoedd eraill (gwefan y System Gyfiawnder Troseddol, yn Saesneg)

Dolenni Cyswllt

Cymorth i Ddioddefwyr (gwefan Saesneg)

Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol (gwefan Saesneg)

Awdurdod Digolledu am Niwed Troseddol (gwefan Saesneg)

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi

19/03/10 8:57