Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn gyfreithiwr neu'n asiant yswiriant, gallwch wneud cais ar ran eich cleient am gopi o unrhyw adroddiadau am wrthdrawiadau sydd wedi'u llunio gan yr heddlu neu’n cael eu cadw gan yr heddlu.
Os ydych yn cynrychioli eich hun mewn achos sifil, gallwch chithau hefyd wneud cais.
Dim ond ar ôl i’r achos gael ei gau y gall adroddiadau gael eu rhyddhau.
Llenwch y ffurflen isod a'i hanfon gyda siec i'r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges ebost.
Manylion trydydd parti: £37.80.
Copi o adroddiad yr heddlu: £106.50.
Noder: efallai bydd costau ychwanegol ar gyfer achosion mwy cymhleth a fydd yn cael eu costio ar sail unigol.