Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os cewch eich dyfarnu’n euog o drosedd, byddwn yn cadw cofnod o’ch olion bysedd a’ch DNA. Gelwir hyn yn ‘wybodaeth fiometrig’. Cedwir y data neu’r wybodaeth hon hyd yn oed os caiff eich achos ei drin y tu allan i’r llys a’i fod yn dod i ben gyda rhybuddiad, rhybudd neu gerydd.
Mae Deddf Diogelu Rhyddidau 2012 yn diwygio Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) ac yn gadael i ni gadw eich gwybodaeth fiometrig am gyfnod amhenodol. Mae’r ddeddfwriaeth hon hefyd yn nodi pryd y gellir ac y caiff eich data ei ddileu o’n cofnodion, gan gynnwys:
Mae Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO (ACRO) yn gweithredu gwasanaeth dileu cofnodion ar ein rhan. Gwiriwch wefan ACRO i weld a allech fod yn gymwys i wneud cais i ddileu eich data. Mae’r broses hon hefyd yn ymdrin â cheisiadau i ddileu rhai cofnodion arestio neu ddatrysiadau y tu allan i’r llys, megis rhybuddiadau. Nid yw euogfarnau llys yn gymwys i’w dileu.
Uned heddlu genedlaethol yw ACRO sy’n darparu ystod o wasanaethau’n ymwneud â phlismona ar gyfer y cyhoedd, sefydliadau gorfodi’r gyfraith rhyngwladol, ac asiantaethau nad ydynt yn heddluoedd.
Dylai eich ymholiadau am dynnu data bob amser fynd yn uniongyrchol at ACRO yn hytrach nag atom ni.
Os yw'r data rydych chi'n gwneud cais i'w dynnu'n cael ei ddal yn lleol, gallwch ofyn iddo gael ei ddileu neu ei newid.