Beth sy’n gyfystyr ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae tri phrif gategori ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn dibynnu ar faint o bobl yr effeithir arnynt:
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol personol yw pan fydd person yn targedu unigolyn neu grŵp penodol.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol niwsans yw pan fydd person yn achosi trwbl, diflastod neu ddioddefaint i gymuned.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol amgylcheddol yw pan fydd gweithredoedd person yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach, megis gofodau cyhoeddus neu adeiladau.
O dan y prif benawdau hyn ceir 13 math gwahanol o ymddygiad gwrthgymdeithasol:
- Cerbyd sydd wedi eu gadael: Mae hyn yn cwmpasu cerbydau sydd fel petaent wedi cael eu gadael gan eu perchennog, yn hytrach na’u dwyn a’u gadael. Mae’n cynnwys cerbydau sgrap neu ‘ddiwedd oes’ a’r rheini sydd wedi’u difrodi mewn lleoliad gwrthdrawiad traffig ar ffordd sydd wedi’u gadael a ddim yn aros i gael eu casglu.
- Niwsans cerbydau neu ddefnydd amhriodol: Mae hyn yn ymwneud â cherbydau’n cael eu defnyddio mewn gweithredoedd megis criwsio strydoedd (gyrru i fyny ac i lawr y stryd gan achosi annifyrrwch a thrafferth i ddefnyddwyr eraill y ffordd), rhes o gerbydau a reidio neu yrru ar dir sydd ddim yn ffordd. Mae hefyd yn cwmpasu camddefnyddio ‘go-peds’, sglefrfyrddau gyda modur a beiciau trydan, a delio mewn cerbydau heb drwydded lle mae gan berson ddau neu ragor o gerbydau ar yr un ffordd o fewn 500 metr i’w gilydd.
- Ymddygiad stwrllyd neu anystyriol: Mae hyn yn cyfeirio at ymddygiad niwsans cyffredinol mewn man cyhoeddus neu fannau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt, megis clybiau preifat. Nid yw’n cynnwys ymddygiad cysylltiedig â materion domestig, aflonyddu neu anhrefn cyhoeddus y dylid eu riportio fel troseddau.
- Cymdogion sy’n stwrllyd neu’n niwsans: Mae hyn yn cwmpasu unrhyw ymddygiad stwrllyd neu niwsans cyffredinol a achosir gan gymdogion, yn cynnwys anghydfodau am ffiniau neu barcio. Mae hefyd yn cwmpasu niwsans sŵn o bartïon neu gerddoriaeth yn cael ei chwarae’n uchel.
- Taflu sbwriel neu offer cyffuriau: Mae hyn yn cynnwys gosod posteri'n anghyfreithlon a gadael sbwriel neu offer cyffuriau mewn unrhyw fan cyhoeddus.
- Problemau anifeiliaid: Mae hyn yn cwmpasu unrhyw sefyllfa lle mae anifeiliaid yn creu niwsans neu yr ystyrir ymddygiad pobl cysylltiedig â defnydd anifeiliaid yn wrthgymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid ddim dan reolaeth, cŵn strae, cyfarth, baeddu neu frawychu gan anifail.
- Tresmasu: Gallai hon fod yn sefyllfa pan fo pobl wedi mynd ar dir, dŵr neu eiddo arall heb awdurdod cyfreithlon neu ganiatâd. Mae’n amrywio o fynd ar lwybr tarw heb awdurdod drwy ardd neu sefydlu gwersylloedd heb awdurdod.
- Galwadau niwsans: Mae hyn yn cwmpasu unrhyw fath o gyfathrebu dros y ffôn sy’n peri pryder ac annifyrrwch, yn cynnwys galwadau mud a galwadau digroeso busnesgar gan fusnesau. Nid yw’n cwmpasu ymddygiad anweddus, bygythiol na thramgwyddus y dylid eu riportio fel troseddau.
- Yfed ar y stryd: Mae hyn yn ymwneud ag yfed didrwydded mewn gofodau cyhoeddus, lle teimlir bod ymddygiad y personau dan sylw yn wrthgymdeithasol. Mae hefyd yn cwmpasu partïon heb eu trefnu a digymell sy’n llifo allan i’r stryd.
- Gweithgaredd cysylltiedig â phuteindra: Mae hyn yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd sy’n gysylltiedig â phuteindra megis loetran, arddangos cardiau neu hyrwyddo puteindra. Gall hefyd gyfeirio at weithgareddau mewn neu yn agos i buteindy sy’n cael effaith ar drigolion lleol. Nid yw’n cynnwys ‘hel puteiniaid o gerbyd’ y dylid ei riportio fel trosedd.
- Sŵn niwsans: Mae hyn yn ymwneud â phob digwyddiad niwsans sŵn sydd ddim yn cynnwys cymdogion (gweler ‘Cymdogion niwsans’ uchod).
- Cardota neu grwydradaeth: Mae hyn yn cwmpasu unrhyw un sy’n cardota neu’n gofyn am gyfraniadau elusennol mewn man cyhoeddus, neu’n annog plentyn i wneud hynny, heb drwydded. Mae hefyd yn cynnwys cysgu allan yn yr awyr agored, drysau siopau neu ardaloedd cymunedol. Gallai gwerthwyr tocynnau didrwydded mewn neu yn agos at hybiau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd fod yn y categori hwn.
- Camddefnyddio tân gwyllt: Bydd hyn yn cynnwys defnyddio tân gwyllt yn amhriodol, gwerthu neu fod ym meddiant tân gwyllt yn anghyfreithlon a sŵn a achosir gan dân gwyllt.
Os ydych yn profi unrhyw rai o’r uchod, efallai y gallwn helpu.