Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwch wneud cais am hawl i gael adolygiad os ydych yn anfodlon ar ganlyniad eich cwyn neu'r ffordd y cafodd ei thrin.
Mae adolygiadau’n cael eu cynnal naill ai gan eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) lleol, neu gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn achosion difrifol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i ni rannu'r wybodaeth a gasglwyd gennym fel rhan o'r broses datrys cwynion gyda'r corff adolygu.
Cewch wybodaeth am eich hawl i gael adolygiad a pha gorff y mae angen ichi wneud cais iddo yn eich llythyr canlyniad. Anfonwn y llythyr hwn atoch ar ôl inni ymdrin â'ch cwyn.
Bydd angen ichi wneud cais o fewn 28 diwrnod neu fydd eich cais ddim yn cael ei dderbyn, oni bai bod amgylchiadau eithriadol ynglŷn â’r oedi.
Fe all y bydd adegau pan na fydd gennych hawl i gael adolygiad, er enghraifft, os nad effeithiodd y digwyddiad rydych chi’n cwyno amdano arnoch chi’n uniongyrchol. Bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau pob cwyn. Bydd hyn yn cael ei egluro ichi yn eich llythyr canlyniad.
Os nad ydych chi'n siŵr beth i'w wneud nesaf neu os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r CHTh perthnasol, yr IOPC neu sefydliad fel Cyngor ar Bopeth yn lleol. Gallwch siarad â chynghorydd cyfreithiol hefyd.