Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar ôl i chi wneud cwyn mae sawl canlyniad posibl. Mae pob cwyn yn wahanol, ond byddwn yn dilyn y ddeddfwriaeth a chanllawiau Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i geisio cael ateb boddhaol.
Os yw'r rhesymau dros eich cwyn yn glir ac nad oes angen ymchwiliad, byddwn yn cofnodi’ch cwyn ac yn ceisio dod yn ôl atoch yn gyflym gyda gwybodaeth neu esboniad.
Os bydd angen inni edrych ar eich cwyn yn fanylach, byddwn yn ei throsglwyddo i'n tîm safonau. Byddan nhw'n ei chofnodi ac yn cysylltu â chi i esbonio'r camau nesaf.
Os gwnewch chi gŵyn i'r IOPC, byddan nhw’n ei hanfon ymlaen aton ni. Byddwn wedyn yn dilyn yr un broses â phe baech chi wedi cysylltu â ni'n uniongyrchol.
Ar ôl cofnodi’ch cwyn, byddwn yn asesu natur y gŵyn a pha mor ddifrifol yw hi.
Byddwn yn dyrannu’r gŵyn i swyddog cwynion sydd heb gysylltiad â'ch cwyn i ymchwilio iddi. Bydd y swyddog yn cysylltu â chi i gael eglurhad o unrhyw fanylion sydd yn eisiau ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Ar gyfer rhai cwynion, byddwn yn cynnal ymchwiliad. Cewch wybod sut y bydd eich cwyn yn cael ei hymchwilio a sut y bydd penderfyniad yn cael ei wneud. Byddwn yn gofyn sut yr hoffech inni gysylltu â chi i roi gwybod am y cynnydd.
Sut bynnag y byddwn yn ymdrin â'ch cwyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud beth yw'r canlyniad ac egluro a allwch wneud cais am apêl neu adolygiad. Dysgwch fwy am yr hyn rydych chi'n gallu ei wneud os ydych chi'n anfodlon ar ganlyniad eich cwyn.
Anfonwn gŵynion difrifol ymlaen at yr IOPC. Byddai cwynion difrifol yn cynnwys gweithredu (neu ddiffyg gweithredu) a arweiniodd at farwolaeth neu anaf difrifol i rywun, ymosodiad difrifol, trosedd rywiol ddifrifol, neu lygredd difrifol.
Fyddwn ni ddim yn gweithredu ar eich cwyn os nad yw'n 'rhesymol a chymesur' inni wneud hynny.
Gallai hynny ddigwydd am ein bod eisoes wedi edrych i mewn i hyn yn flaenorol, nad oedd y digwyddiadau y mae'r gŵyn yn ymwneud â nhw yn effeithio'n uniongyrchol arnoch chi neu fod yna broses fwy priodol ar gyfer codi'r gŵyn, er enghraifft, Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.