Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn profi cam-drin domestig, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau cefnogi sy’n deall eich anghenion penodol. Isod fe welwch restr o sefydliadau all eich cynorthwyo.
Goleudy
Gwasanaeth cyfrinachol ac am ddim ar gyfer dioddefwyr a thystion troseddau. Ar agor dydd Llun hyd ddydd Sadwrn, 10am i 6pm.
Ebost: [email protected]
Ffôn: 0300 1232996
Byw Heb Ofn
Llinell gymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig yng Nghymru.
Cymorth i Fenywod Cymru
Rhoi menywod a phlant yn gyntaf.
Relate Cymru
Arweiniad ar berthynas yn cynnwys cymorth ar gyfer trais domestig.
BAWSO
Cymorth ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Gallwch gael cyngor am gam-drin domestig, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern.
Prosiect Dyn Cymru Ddiogelach
Gweithio ledled Cymru i gefnogi dynion sy’n profi cam-drin domestig.
Refuge a Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol
Sefydliad cam-drin domestig mawr i fenywod a phlant yw Refuge, sy’n cynnal llinell gymorth genedlaethol 24 awr y dydd.
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymorth i Fenywod
Elusen genedlaethol sy’n gweithio i roi terfyn ar gam-drin domestig yn erbyn menywod a phlant.
FLOWS (Finding Legal Options for Women Survivors)
Gwasanaeth cymorth cyfreithiol i helpu i amddiffyn menywod rhag cam-drin domestig.
Prosiect Sharan
Darparu cymorth i fenywod agored i niwed, yn enwedig rhai o dras De Asiaidd, sydd wedi cael eu diarddel o’u cymunedau.
Men’s Advice Line
Llinell gymorth gyfrinachol i ddynion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig.
ManKind Initiative
Llinell gymorth gyfrinachol i ddynion sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais domestig.
Hourglass
Mae llinell gymorth gyfrinachol Hourglass yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sy’n pryderu am niwed, cam-drin neu gam-fanteisio ar bobl hŷn.
SafeLives.org.uk
Elusen DU gyfan sy’n darparu cymorth ac arweiniad yn ymwneud â cham-drin domestig i ddioddefwyr, yn ogystal â ffrindiau a theuluoedd.
Canolfan Genedlaethol Trais Domestig
Gwasanaeth am ddim sy’n helpu dioddefwyr cam-drin domestig i wneud cais am waharddeb llys brys.
Cymorth i Ddioddefwyr
Cymorth cyfrinachol am ddim i ddioddefwyr trosedd, tystion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, gyda chyfleuster sgwrs fyw a llinell gymorth 24 awr y dydd ar gael.
Llinell Gymorth Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan garcharor: 0300 060 6699
Cynnig cyngor i unrhyw un sy'n cael cysylltiad digroeso gan droseddwr sydd yn y carchar. Mae'r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm. Anfonwch ebost at [email protected] neu gwnewch 'gais di-gyswllt' ar wefan gov.uk.
Respect.uk
Mae Respect yn rhoi cyngor i’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu hymddygiad ac sydd angen help i newid eu ffyrdd. Mae’n cynnwys cymorth i bobl ifanc sy’n defnyddio trais a chamdriniaeth mewn perthnasoedd agos a hefyd yn helpu dioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig.
Llinell Gymorth Frys Shelter
Mae’r elusen hon yn rhoi cyngor i’r rheini sy’n cael trafferth gyda thai gwael neu ddigartrefedd, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig sydd wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi.
Galop
Cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar gyfer pobl LHDT+.
Sign Health
Cymorth a chyngor i ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.
Gall y grwpiau a’r sefydliadau canlynol roi cymorth ac arweiniad i ddioddefwyr ‘trais a chamdriniaeth gan blant a’r glasoed tuag at rieni’ (CAPVA).
Cymorth Twf Addysg i Rieni (PEGS)
Menter gymdeithasol sy’n cefnogi unrhyw riant, gofalwr neu warcheidwad sy’n profi camdriniaeth plentyn tuag at riant, waeth beth fo oedran y plentyn, hyd yn oed os yw’n oedolyn.
Capa First Response
Mae Capa (Camdriniaeth gan Blant a’r Glasoed tuag at Rieni) yn cefnogi teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sy’n cael trafferthion gyda phlentyn sy’n ymddwyn yn ymosodol neu’n niweidiol yn y cartref. Mae’n helpu rhai sy’n gofalu am naill ai blentyn dan 18 oed neu berson ifanc hyd at 25 oed sydd â diagnosis niwroamrywiol megis ASD neu ADHD.
Family Lives
Gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol am ddim sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol.
FamilyLine
Elusen sy’n cefnogi aelodau o’r teulu sydd dros 18 oed. Mae’n darparu cymorth emosiynol, ymarferol ac ariannol, yn ogystal ag arweiniad ar faterion teuluol.
Karma Nirvana
Llinell gymorth gyfrinachol sy’n darparu cymorth a chyngor emosiynol ac ymarferol i ddioddefwyr a goroeswyr priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd.
Uned Priodasau dan Orfod
Cysylltwch â’r Uned Priodasau dan Orfod (FMU) os ydych chi’n ceisio atal priodas dan orfod neu os oes angen help arnoch i adael priodas y cawsoch eich gorfodi iddi.