Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi’n ddioddefwr-oroeswr treisio neu drosedd rywiol arall? Hoffech chi roi adborth ar eich profiad gyda’r heddlu?
Mae Ymgyrch Soteria Bluestone yn gwahodd dioddefwyr-oroeswyr treisio a throseddau rhywiol eraill i gymryd rhan mewn arolwg am eich profiad gyda’r heddlu. Mae’r arolwg ar-lein yn gwbl ddienw.
Bydd yr arolwg yn ein helpu i ddeall sut mae proses yr heddlu’n teimlo i ddioddefwyr treisio a throseddau rhywiol eraill. Bydd y canfyddiadau’n fodd inni wneud y newidiadau a’r addasiadau cywir fel ein bod ni’n arwain drwy gyfrwng yr arferion gorau i’n dioddefwyr o ran cymorth ac ymgysylltu.
Pob dioddefwr-oroeswr treisio a throseddau rhywiol eraill sy’n 18 oed neu’n hŷn mae’r heddlu’n gwybod amdanyn nhw. Efallai bod eich achos chi newydd ddechrau, wedi bod yn mynd ymlaen ers peth amser, neu wedi’i gau. Rydyn ni am wrando ar bob dioddefwr-oroeswr.
Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan academyddion ym Mhrifysgol Dinas Llundain, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Os byddwch chi’n ymateb, fydd dim modd ichi gael eich adnabod, a bydd eich data’n gwbl ddienw.
Gallwch lenwi’r arolwg yma ar-lein yn eich amser eich hun, ar eich cyflymder eich hun, ac mewn man sy’n teimlo’n ddiogel ac yn gyffyrddus i chi. Dylai gymryd tua 15 munud i’w lenwi, ond cewch gymryd cymaint o amser ag sydd arnoch ei angen.
Arolwg academaidd yw hwn sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Dinas Llundain, ac nid arolwg gan yr heddlu.
Peidiwch â riportio unrhyw droseddau yn yr arolwg gan y bydd eich ymateb yn ddienw.