Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gyfraith yn diffinio gwrthdrawiad traffig ffordd adroddadwy fel un sy'n cynnwys cerbyd wedi'i yrru'n fecanyddol ar ffordd neu fan cyhoeddus arall sy'n achosi:
*Cewch riportio hefyd gwrthdrawiadau neu ddigwyddiadau sy'n cynnwys ceirw, ond nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol.
Os ydych chi'n cael trafferth sicrhau’r manylion hyn gan rywun sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad neu os ydyn nhw wedi gadael heb roi manylion, ffoniwch yr heddlu ar 101 tra byddwch chi'n dal ar safle'r gwrthdrawiad.
Does dim angen ichi riportio gwrthdrawiad i'r heddlu os ydych wedi cyfnewid manylion, os na chafodd neb ei anafu ac os nad oes honiadau o droseddau gyrru.
Mae’n rhaid ichi riportio’r gwrthdrawiad i'r heddlu os nad oeddech yn gallu cyfnewid manylion yn y fan a'r lle, os cafodd unrhyw un ei anafu, neu os ydych yn amau y gallai'r person arall fod wedi cyflawni trosedd gyrru.
Gallwch riportio gwrthdrawiad ar-lein
Ar ôl ichi gyflwyno'ch ffurflen, lawrlwythwch gopi ar gyfer eich cofnodion a chofiwch wneud nodyn o rif cyfeirnod y ffurflen i'w roi i'ch cwmni yswiriant.
Gallwch riportio gwrthdrawiad mewn gorsaf heddlu
Rhaid ichi riportio’r gwrthdrawiad cyn gynted â phosibl o fewn 24 awr ar ôl y gwrthdrawiad.
Nid yw'n ofynnol ichi fynd ag unrhyw ddogfennau gyda chi – mae modd dod o hyd i'r holl fanylion yn electronig.
Ym mhob achos, cofiwch riportio’r gwrthdrawiad i'ch cwmni yswiriant cyn gynted â phosibl.
Bydd eich adroddiad yn cael ei asesu a dim ond os oes angen rhywbeth pellach gennych chi, fel datganiad tyst neu fynd i’r llys, y byddwn yn cysylltu â chi.
Os byddwch yn riportio gwrthdrawiad heb anaf a/neu unrhyw honiad o yrru'n wael, mae'n annhebygol y bydd yr heddlu'n cysylltu â chi eto.
Dylech roi gwybod i'ch cwmni yswiriant a dilyn eu cyngor. Gallwch ddefnyddio'r rhif cyfeirnod fel cyfeirnod gan yr heddlu at ddibenion yswiriant.
Os ydych wedi gwneud honiad, yna bydd eich adroddiad yn cael ei asesu gan yr heddlu a naill ai:
Mae’n rhaid ichi riportio’r gwrthdrawiad, ni waeth pwy oedd ar fai.
Os na fyddwch yn stopio yn y fan a'r lle neu'n riportio digwyddiad, fe allech fod yn cyflawni trosedd a chael eich cyhuddo.
Mae'r cosbau'n cynnwys:
Mae’r llys yn cael eich anghymhwyso rhag gyrru hefyd.