Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall cael eich stopio a’ch chwilio fod yn brofiad amhleserus, waeth sut mae’r swyddogion heddlu yn ymdrin â’r mater. Ond os teimlir y defnyddiwyd gormod o rym neu agwedd amhriodol, yna hoffem glywed am hynny ac, os bydd angen, byddwn yn gweithredu. Yn yr un modd, rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau neu sylwadau cadarnhaol yr hoffech eu rhannu gyda ni.
Os ydych yn teimlo eich bod wedi cael profiad amhleserus neu anfoddhaol, efallai y byddwch am wneud cwyn ffurfiol. Gallwch wneud hynny os ydych chi’n teimlo bod swyddog heddlu wedi ymddwyn yn anghywir neu’n annheg. Er enghraifft, os ydych chi’n credu bod swyddog wedi:
Caiff pob cwyn ei hymchwilio a gall hyn gymryd amser.
Er mwyn gwneud cwyn ffurfiol ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff cwynion eu hymchwilio, darllenwch ein tudalennau cwynion. Os ydych chi wedi cael profiad cadarnhaol, gallwch roi eich adborth i ni.
Rydyn ni’n adolygu pob cwyn ynghylch stopio a chwilio. Rydyn ni’n rhannu'r adolygiad, ac unrhyw beth a wnawn o ganlyniad i'r adolygiad, gyda Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yr Heddlu.
Aelodau o’r gymuned sy’n gyfrifol am graffu ar sut mae stopio a chwilio’n cael ei ddefnyddio yw aelodau’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol.
Cafodd y panel ei greu i graffu ar ansawdd cysylltiadau’r heddlu â'r cyhoedd ar ran y cymunedau yn ardal Dyfed-Powys.
Mae’r meysydd y mae’r panel yn eu hadolygu yn cynnwys cwynion, achosion Stopio a Chwilio a dull yr heddlu o ymdrin â galwadau 101 a 999.
Gallwch wneud cais am ymuno â’r panel ar wefan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.