Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heb y pŵer i allu stopio a chwilio unigolion yr ydym yn amau sydd wedi cymryd rhan mewn trosedd, neu ar fin cyflawni trosedd, byddai’r her rydym yn ei hwynebu ar ein strydoedd yn llawer mwy.
Nid ar chwarae bach y defnyddir stopio a chwilio a bydd swyddogion yr heddlu ond yn arfer eu hawl gyfreithiol i stopio aelodau o’r cyhoedd a’u chwilio pan fyddant wir yn amau y bydd gwneud hynny yn gwella eu hymchwiliadau i weithgarwch troseddol - boed hynny’n golygu chwilio am arfau, cyffuriau neu eiddo sydd wedi’i ddwyn.
Mae Adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn wahanol i stopio a chwilio arferol gan ei bod yn rhoi’r hawl i’r heddlu chwilio pobl heb sail resymol. Gall hyn ond digwydd mewn ardal ddiffiniedig ar amser penodol pan fo uwch swyddog yn credu bod posibilrwydd o drais difrifol, neu arfau yn gysylltiedig.