Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn dioddef o stelcio neu aflonyddu, mae ffyrdd o helpu i ddelio â hyn.
Cadwch gofnod
Cadwch gofnod o ddigwyddiadau, naill ai’n ysgrifenedig neu ar ffôn neu gyfrifiadur. Cofnodwch bob digwyddiad cyn gynted â phosibl a rhowch yr amser a'r dyddiad.
Mae hefyd yn ddefnyddiol:
- nodi manylion unrhyw dystion a allai fod wedi gweld neu glywed unrhyw beth
- cadw cofnod o sut roedd y person sy'n aflonyddu arnoch yn edrych; manylion am eu dillad neu eu car
- cadw negeseuon neu recordio unrhyw alwadau ffôn a gewch
- defnyddio 1471 ar y ffôn ac ysgrifennu manylion galwadau, gan gynnwys amseroedd a'r rhifau ffôn (gan gynnwys galwadau heb eu hateb)
- gofynnwch i gymdogion, ffrindiau a phobl rydych chi'n gweithio gyda nhw i gofnodi unrhyw fanylion os ydyn nhw'n dyst i unrhyw beth
Gwiriwch eich diogelwch ar-lein
Gwiriwch eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i sicrhau nad yw eich manylion personol ar gael i'r cyhoedd.
Mae hefyd yn ddefnyddiol i chi:
- wneud yn siŵr mai dim ond eich ffrindiau all weld eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, nid y cyhoedd
- gwirio gosodiadau preifatrwydd ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig
- Gwglwch eich hun i wirio nad oes unrhyw fanylion amdanoch ar gael ar-lein
- peidiwch â defnyddio'r un cyfrinair ar gyfer popeth
- diffoddwch y gosodiad lleoliad ar eich ffôn
- gwiriwch eich gosodiadau tagio ar gyfryngau cymdeithasol
- diweddarwch eich meddalwedd gwrth-firws
- rhowch wybod am achosion o aflonyddu i weinyddwyr gwefannau
- os ydych chi'n meddwl bod eich ffôn clyfar neu gyfrifiadur wedi'i hacio (bod rhywun arall wedi torri i mewn iddo), rhowch y gorau i'w ddefnyddio ac ewch ag ef at eich darparwr ffôn symudol neu arbenigwr cyfrifiadurol am gyngor
Galwadau digroeso
Os ydych yn derbyn galwadau digroeso:
- peidiwch ag ateb y ffôn gyda'ch cyfeiriad neu rif ffôn
- os nad ydych yn adnabod y galwr, peidiwch ag ateb cwestiynau amdanoch eich hun, waeth pa mor onest y maent yn swnio
- os oes gennych neges llais, peidiwch â chynnwys eich enw na'ch rhif yn y neges
- ni ddylai neges llais fyth ddweud wrth bobl eich bod allan neu i ffwrdd
- os ydych wedi'ch rhestru mewn unrhyw gyfeirlyfrau, rhowch eich blaenlythrennau a'ch cyfenw yn hytrach na'ch enw llawn
- peidiwch byth â dangos dicter neu ofn dros y ffôn: ceisiwch beidio â chynhyrfu a byddwch yn hyderus