Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi’n byw yn ardal Heddlu Dyfed Powys ac os yw’n ofynnol ichi gofrestru gyda'r heddlu (sef rhan hanfodol o amodau fisa llawer o wladolion tramor), mae angen ichi ymweld ag un o'r gorsafoedd heddlu isod. Mae'n well dewis yr orsaf heddlu agosaf at y fan lle rydych chi’n byw.
Does dim angen gwneud apwyntiad.
Lawrlwythwch, llenwch, argraffwch a llofnodwch ein ffurflen gofrestru i ymwelwyr tramor: mae angen dod â'r ffurflen hon gyda chi. Gweler ein rhestr lawn o'r hyn mae’n rhaid dod ag ef gyda chi i gofrestru fel ymwelydd tramor.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch 101.
Dewch i un o'r gorsafoedd heddlu canlynol:
Gorsaf Heddlu Caerfyrddin
Heol Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PD
Gweld Gorsaf Heddlu Caerfyrddin ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 9am a 2pm ac 2.40pm a 5pm
Gorsaf Heddlu Llanelli
Waunlanyrafon
Llanelli
SA15 3AA
Gweld Gorsaf Heddlu Llanelli ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 9am a 2pm ac 2.40pm a 5pm
Gorsaf Heddlu Rhydaman
Heol y Ffowndri
Rhydaman
SA18 2LS
Gweld Gorsaf Heddlu Rhydaman ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm a dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 9am a 5pm
Gorsaf Heddlu Aberteifi
Parc Teifi
Aberteifi
SA43 1EW
Gweld Gorsaf Heddlu Aberteifi ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 9am ac 1pm ac 1.40pm a 5pm
Gorsaf Heddlu Aberystwyth
Boulevard Saint Brieuc
Aberystwyth
SY23 1PH
Gweld Gorsaf Heddlu Aberystwyth ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm
Ar agor dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc rhwng 9am ac 1pm ac 1.40pm a 5pm
Gorsaf Heddlu Llanbedr Pont Steffan
Stryd Fawr
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7BH
Gweld Gorsaf Heddlu Llanbedr Pont Steffan ar fap
Ar agor o ddydd Llun a dydd Iau rhwng 9.30am a 12.30pm
Gorsaf Heddlu Doc Penfro
Water Street
Doc Penfro
SA72 6DW
Gweld Gorsaf Heddlu Doc Penfro ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 10am a 2pm ac 2.40pm a 6pm
Swyddfa Heddlu Hwlffordd
Blwch Post 31
Hwlffordd
SA61 1PF
Gweld Swyddfa Heddlu Hwlffordd ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am ac 8pm
Ar agor dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc rhwng 10am a 2pm ac 2.40pm a 6pm
Gorsaf Heddlu Aberhonddu
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambria
Aberhonddu
LD3 7HP
Gweld Gorsaf Heddlu Aberhonddu ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 8am ac 8pm
Ar agor dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 2pm a 2.40pm a 6pm
Gorsaf Heddlu y Drenewydd
Lôn y Parc
Y Drenewydd
SY16 1EN
Gweld Gorsaf Heddlu y Drenewydd ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 8am ac 8pm
Ar agor dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 10am a 2pm ac 2.40pm a 6pm
Gorsaf Heddlu Llandrindod
Parc Noyadd
Llandrindod
LD1 5DF
Gweld Gorsaf Heddlu Llandrindod ar fap
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) rhwng 10am a 2pm ac 2.40pm a 6pm
Rhaid ichi ddod i un o'r gorsafoedd heddlu hyn i gofrestru a chael tystysgrif cofrestru'r heddlu (PRC) o fewn saith diwrnod ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn bwysig, oherwydd os na wnewch chi hynny fe allech wynebu:
Fe gewch chi’ch PRC gennym ar ôl ichi orffen cofrestru.
Ansicr a oes angen ichi gofrestru? Darllenwch ein cyngor i ymwelwyr tro cyntaf: pwy sydd angen cofrestru fel gwladolyn tramor?
Os bydd unrhyw fanylion personol neu fanylion cysylltu’n newid tra byddwch yn astudio neu’n gweithio yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, bydd angen ichi ddiweddaru’ch tystysgrif gyda ni yn unol â’r manylion uchod.
Rhaid ichi riportio unrhyw un neu ragor o'r newidiadau canlynol o fewn saith diwrnod:
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gyda heddlu arall a'ch bod yn symud i ardal Dyfed-Powys, mae angen bellach ichi ddiweddaru’ch tystysgrif drwy ddod i un o'r gorsafoedd heddlu uchod.
Os ydych chi wedi colli tystysgrif cofrestru'r heddlu, dewch i un o'r gorsafoedd heddlu uchod i gael un arall yn ei lle. Bydd y dystysgrif newydd yn costio £34.
Gweler ein rhestr wirio lawn o’r hyn mae’n rhaid dod ag ef gyda chi pan fyddwch yn ymweld â ni.