Sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Offeryn cyngor
Gwneud cais am dystysgrif i feddu llai na 15kg o ffrwydron i’w defnyddio mewn digwyddiad ail-greu
Sut mae gwneud cais?
Cam 1: Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â Rheoliadau Ffrwydron 2014.
Cam 2: Lawrlwythwch a llenwi’r ffurflen Cais am Dystysgrif Ffrwydron (Ffurflen ER4A).
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
- eich cyfeiriadau cartref yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf
- eich tystysgrif arf tanio neu ddryll (os yw’n berthnasol)
- tystysgrifau ffrwydron blaenorol (os yw’n berthnasol)
- unrhyw euogfarnau blaenorol
- unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu iechyd meddwl
Hefyd ar y ffurflen hon bydd angen i chi nodi a ydych yn bwriadu caffael yn unig, neu gaffael a chadw’r ffrwydron.
Cam 3: Postiwch y ffurflen wedi'i llenwi i:
Adran Arfau Saethu
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Beth yw’r gost?
Does dim rhaid talu i wneud cais.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cais?
Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais neu fod angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth.