Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Amrywio tystysgrif arf tanio gydag arfau tanio ychwanegol
Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy'r post.
Cewch ychwanegu bwledi neu getris yn rhad ac am ddim.
Mae ychwanegu arfau tanio’n costio £20.
Cam 1: llenwch y ffurflen ar-lein
Bydd arnoch angen y manylion hyn:
Cam 2: postiwch eich tystysgrif arf tanio gyfredol at:
Adran Arfau Saethu
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Sylwch: os oes angen ichi ddiweddaru manylion eich meddyg teulu, gallwch wneud hynny ar-lein yma.
Cam 1: Lawrlwythwch, llenwch a llofnodwch y Cais i Amrywio Tystysgrif Arf Tanio (Ffurflen 201V).
Bydd arnoch angen y manylion hyn:
Cam 2: Does dim tâl am gynyddu bwledi neu getris. Ar gyfer arfau tanio ychwanegol, gwnewch siec neu archeb bost am £20, yn daladwy i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Allwn ni ddim derbyn arian parod.
Cam 3: Ar ôl ei llenwi, postiwch y ffurflen, y siec neu’r archeb bost a’ch tystysgrif arfau tanio gyfredol i:
Adran Arfau Saethu
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Anfonwn eich cyfeirnod atoch ar gyfer eich cofnodion a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen inni ofyn am ragor o wybodaeth neu drefnu ymweliad â’ch cartref.
Fel arall, fe ddylech chi gael eich tystysgrif wedi'i diweddaru o fewn wyth wythnos.