Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Gwneud cais am amrywio tystysgrif arf tanio un-am-un
Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy'r post.
Cewch amrywio’ch tystysgrif yn rhad ac am ddim.
Cam 1: llenwch y ffurflen ar-lein
Bydd arnoch angen y manylion hyn:
Cam 2: postiwch eich tystysgrif arf tanio bresennol i’r:
Adran Arfau Saethu
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Sylwch: os oes angen ichi ddiweddaru manylion eich meddyg teulu, gallwch wneud hynny ar-lein yma.
Cam 1: Lawrlwythwch y Cais i Amrywio Tystysgrif Arf Tanio (Ffurflen 201V) a’i llenwi.
Bydd arnoch angen y manylion hyn:
Cam 2: Ar ôl ei llenwi a’i llofnodi, postiwch y ffurflen a’ch tystysgrif arf tanio gyfredol i’r:
Adran Arfau Saethu
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Anfonwn eich cyfeirnod atoch ar gyfer eich cofnodion a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen inni ofyn am ragor o wybodaeth neu drefnu ymweliad â’ch cartref.
Fel arall, fe ddylech chi gael eich tystysgrif wedi'i diweddaru o fewn wyth wythnos.