Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwybodaeth isod am sut mae gwneud cais am dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron, neu adnewyddu un. Boed chi’n berchennog arf tanio, yn ddeliwr drylliau, yn aelod o glwb saethu neu’n bwriadu teithio ag arfau tanio, atebwch ychydig o gwestiynau cyflym ac fe wnawn ni eich cyfeirio at y ffurflen gywir, a phopeth sydd ei angen arnoch i’w llenwi.
Gwneud cais am dystysgrif arf tanio newydd
Gallwch chi wneud cais ar-lein neu drwy’r post.
Bydd angen i chi ddarllen y nodiadau canllaw cyn gwneud cais. Darllen y nodiadau canllaw.
£88 yw’r gost.
Sylwer: Os byddwch yn gwneud cais ar-lein bydd angen i chi dalu ar-lein hefyd. Does dim modd i ni dderbyn sieciau ar gyfer cais ar-lein.
Mae’n gallu cymryd hyd at 12 i 15 wythnos i roi tystysgrif newydd.
Mae hyn yn dibynnu ar gael ffurflen gyflawn. Os oes rhaid i'r Adran Arfau Saethu gysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth am unrhyw beth, gallai gymryd hirach i brosesu eich cais.
Eich manylion cyswllt, gan gynnwys:
Gwybodaeth iechyd a meddygol:
Manylion am unrhyw droseddau neu rybuddion ysgrifenedig (gan gynnwys goryrru ond nid troseddau parcio na hysbysiadau cosb benodedig):
Manylion am yr arf(au) tanio a’r bwledi a chetris rydych yn bwriadu eu caffael:
Manylion dau ganolwr rydych wedi’u hadnabod am fwy na dwy flynedd, gan gynnwys:
Sylwch: ni all canolwyr fod yn aelod o’ch teulu, yn swyddog heddlu neu’n staff heddlu sy’n gwasanaethu, neu’n ddeliwr arfau tanio cofrestredig.
Llun:
Taliad:
Ymgeiswyr o dramor:
Cam 1: Llenwch fersiwn ar-lein y ffurflen.
Cam 2: Uwchlwythwch eich ffotograff a’ch ffurflen wedi’i llenwi gan eich meddyg teulu gyda’ch cais.
Cam 3: Talwch ar-lein.
Bydd hi’n cymryd tua 20 munud i lenwi’r ffurflen hon ac ni fyddwch yn gallu cadw eich cais wrth fynd, felly bydd rhaid ei llenwi ar un tro.
Cliciwch y botwm ‘Dechrau’ isod i ddechrau eich cais ar-lein.
Cam 1: Llwythwch y ffurflen gais ar gyfer tystysgrif arf tanio i lawr (Ffurflen 201), a’r ffurflen meddyg teulu.
Cam 2: Argraffu a chwblhau'r ffurflenni.
Cam 3: Atodwch un llun ar ffurf pasbort (45mm o uchder x 35mm o led) at eich ffurflen 201.
Cam 4: Gwneud siec am £88 yn daladwy i Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys. Ni allwn dderbyn arian parod nac archebion post.
Cam 5: Postiwch eich ffurflen 201 a’ch ffurflen gwybodaeth feddygol wedi'u cwblhau gyda'ch siec i:
Adran Arfau Saethu
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich cais neu fod angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth.