Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma nodiadau’r Swyddfa Gartref i gefnogi ceisiadau ar gyfer rhoi ac adnewyddu tystysgrifau arfau tanio a drylliau.
Dylech eu darllen cyn dechrau gwneud cais. Bydd gofyn i chi gadarnhau yng ngham cyntaf y ffurflen gais eich bod wedi eu darllen.
Os nad ydych wedi cael tystysgrif arf tanio neu ddryll o’r blaen, neu os oes gennych dystysgrif sydd erbyn hyn wedi dod i ben, rhaid i chi wneud cais am dystysgrif newydd.
Os oes gennych dystysgrif yr ydych am ei hadnewyddu, mae’n rhaid i chi wneud hynny cyn bod eich tystysgrif bresennol yn dod i ben.
Diogelu data | |
Mae Adran 1 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 (fel y'i diwygiwyd) yn berthnasol i bob arf tanio heblaw:
Dyma’r diffiniad o ddryll (shotgun) yn Adran 1(3)a o Ddeddf Arfau Tanio 1968 (fel y'i diwygiwyd):
Wrth wneud cais am dystysgrif arf tanio, dylech fod wedi cael caniatâd dau berson sydd wedi cytuno i fod yn ganolwyr i chi.
Wrth wneud cais am dystysgrif dryll, dylech fod wedi cael caniatâd un person sydd wedi cytuno i fod yn ganolwr i chi.
Rhaid i’r canolwyr fod wedi eich adnabod yn bersonol am ddwy flynedd o leiaf, a rhaid iddynt fod yn breswylydd ym Mhrydain.
Ni chaiff canolwr fod yn aelod o’ch teulu agosaf, yn ddeliwr arfau cofrestredig, yn swyddog heddlu sy’n gwasanaethu, yn aelod o staff yr heddu, yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu nac yn aelod o’i staff, yn aelod o Awdurdod Heddlu’r Alban nac yn aelod o staff yr Awdurdod.
Rhaid i’r canolwyr fod yn bobl o gymeriad da a rhaid i unrhyw eirda maen nhw’n cytuno i’w ddarparu gael ei roi o’u gwirfodd, ac nid yn dilyn taliad.
I wneud cais am dystysgrif arf tanio a thystysgrif dryll, ac i wneud yn siŵr eu bod yn dod i ben ar yr un pryd (tystysgrifau cydffiniol), dylech lenwi’r adrannau ar gyfer tystysgrifau arf tanio a dryll.
Mae’n bosib y bydd y ffi daladwy ar gyfer tystysgrifau o’r fath yn llai na’r ffi arferol ar gyfer rhoi neu adnewyddu tystysgrif dryll os byddwn yn delio â’ch ddau gais ar yr un pryd.
Rhaid i chi ddatgelu unrhyw gyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol perthnasol yr ydych wedi cael diagnosis neu wedi cael triniaeth ar eu cyfer yn y gorffennol, oherwydd gallai hyn effeithio ar eich gallu i feddu a defnyddio arf tanio neu ddryll yn ddiogel.
Mae Adrannau 27 a 28 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi, er mwyn cyhoeddi tystysgrif arf tanio neu ddryll, rhaid i brif swyddog yr heddlu fod yn fodlon y gellir caniatáu i ymgeisydd feddu gwn ‘heb berygl i ddiogelwch y cyhoedd nac i’r heddwch’.
Mae ffitrwydd meddygol yn un o’r ffactorau y mae’n rhaid i’r heddlu eu hystyried wrth asesu pa mor addas yw person.
Dyma’r cyflyrau meddygol perthnasol y mae’n rhaid eu datgelu:
Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu adran trwyddedu arfau tanio’r heddlu.
Os ydych wedi datgelu cyflwr meddygol perthnasol, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn i chi gael adroddiad meddygol gan eich meddyg teulu/arbenigwr. Bydd disgwyl i chi dalu os codir ffi am hyn. Os bydd angen mwy o wybodaeth, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn am adroddiad ac yn talu amdano.
Os na ddatgelir unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol, bydd yr heddlu’n cysylltu â’ch meddyg teulu i ofyn a yw’n ymwybodol o unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol, neu a oes ganddo bryderon am roi tystysgrif arf tanio neu ddryll.
Yn dibynnu ar yr ateb, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn i chi gael adroddiad meddygol gan eich meddyg teulu/arbenigwr. Bydd disgwyl i chi dalu os codir ffi am hyn. Os bydd angen mwy o wybodaeth, mae’n bosib y bydd yr heddlu’n gofyn am adroddiad ac yn talu amdano.
Bydd yr heddlu’n gofyn i’ch meddyg teulu roi neges atgoffa wedi’i hamgodio ar eich cofnod claf i nodi eich bod wedi cael tystysgrif arf tanio neu ddryll. Gofynnir i’r meddyg teulu roi gwybod i’r heddlu os, ar ôl rhoi’r dystysgrif, eich bod yn cael diagnosis neu driniaeth ar gyfer cyflwr meddygol perthnasol (a restrir uchod) neu os oes gan y meddyg teulu bryderon eraill am y ffaith fod gennych dystysgrif a allai effeithio ar eich gallu i feddu arf tanio’n ddiogel.
Ar ôl i’ch meddyg teulu gysylltu, mae’n bosib y bydd angen adroddiad meddygol i helpu i asesu eich addasrwydd parhaus i feddu tystysgrif arf tanio neu ddryll. Os oes angen adroddiad meddygol, bydd yr heddlu’n talu.
Ar ôl rhoi tystysgrif arf tanio neu ddryll, sylwch fod y datganiad rydych wedi’i lofnodi yn cydsynio i rannu gwybodaeth rhwng eich meddyg teulu a’r heddlu yn berthnasol yn ystod y broses o wneud cais ac yn ystod dilysrwydd unrhyw dystysgrif arf tanio neu ddryll, a allai fod yn hyd at bum mlynedd.
Mae disgwyl i chi roi gwybod i’r heddlu os, ar ôl rhoi’r dystysgrif, eich bod yn cael diagnosis neu driniaeth ar gyfer cyflwr meddygol perthnasol yn ystod cyfnod y dystysgrif.
Os byddwch yn newid eich meddyg teulu, dylech roi gwybod i’r heddlu a darparu manylion cyswllt y meddyg teulu newydd.
Gofynnir i chi ddarparu manylion o’ch meddygon teulu yn ystod y ddeng mlynedd ddiwethaf ac a ydych wedi cysylltu ag ymarferwyr meddygol ar wahân i’r rhai yn eich practis meddyg teulu, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth berthnasol ar gael i’r heddlu er mwyn eu helpu i asesu pa mor addas ydych i feddu tystysgrif arf tanio.
O ran staff milwrol sydd wedi’u lleoli dramor ac sydd â meddyg teulu yn y gwasanaeth, gellir eu hystyried yn breswylydd yn y DU at ddibenion y cais.
Chewch chi ddim dal gwybodaeth yn ôl am unrhyw euogfarn.
Mae hyn yn cynnwys troseddau moduro (gan gynnwys troseddau goryrru), rhwymiadau, rhybuddion ysgrifenedig ffurfiol ac euogfarnau ym Mhrydain a thu hwnt, ac (yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975) euogfarnau sydd wedi dod i ben o dan Ddeddf 1974.
Mae rhyddhad amodol a rhyddhad diamod yn cael eu hystyried yn euogfarn at y diben hwn.
Nid oes angen datgan manylion troseddau parcio a hysbysiadau cosb benodedig.
Mae Adran 21 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 yn gosod cyfyngiadau ar bobl sydd wedi’u cael yn euog o drosedd yn meddu ar arfau tanio a bwledi a chetris.
Mae person sy’n cael dedfryd o garchar o dri mis neu fwy wedi’i wahardd rhag meddu arf tanio, dryll, arf tanio hynafol, arf aer neu fwledi a chetris am bum mlynedd o’u dyddiad rhyddhau.
Yn achos dedfryd ohiriedig, mae’r gwaharddiad yn berthnasol o’r ail ddiwrnod ar ôl y ddedfryd.
Os yw’r ddedfryd yn un o dair blynedd neu fwy, mae’r gwaharddiad yn berthnasol am oes oni bai y caiff ei godi gan Lys y Goron (neu’r Siryf).
Dylech ganiatáu i’r heddlu arolygu eich gynau a’ch mesurau diogelwch yn ôl y gofyn oherwydd heb warant, mae angen cydsyniad er mwyn i’r heddlu arolygu eiddo.
Rhaid defnyddio ffotograff digidol ar gyfer ceisiadau ar-lein.
Rhaid i’r ffotograffau fod o safon broffesiynol yn erbyn cefndir hufenlliw neu lwyd, heb wrthrychau na phobl eraill yn y cefndir.
Rhaid i’r ffotograff fod yn un gwir ohonoch a chynnwys eich wyneb llawn heb orchudd pen (oni bai eich bod yn ei wisgo am resymau crefyddol neu feddygol).
Yn eich ffotograff, rhaid i chi edrych yn syth at y camera, rhaid i’ch edrychiad fod yn niwtral, gyda’ch llygaid ar agor a’ch ceg ar gau.
Ni chewch wisgo sbectol haul na sbectol dywyll, ac ni chaiff y ffotograff gynnwys unrhyw ‘lygaid coch’.
Nod y wybodaeth monitro cydraddoldeb rydych yn ei darparu yw helpu’r heddlu i gyflawni ei ddyletswyddau fel Awdurdod Cyhoeddus.
Caiff y wybodaeth hon ei chadw ar wahân i’r cais.
Bydd y dderbynneb ar gyfer ceisiadau electronig, os yw’r rhain ar gael, yn cael ei chynhyrchu’n awtomatig gan y system.
Os yw cais yn cael ei wneud i amrywio, rhaid i’r dystysgrif sydd i’w hamrywio gael ei chynnwys gyda’ch cais. (Efallai y byddwch yn dymuno cadw copi o’r dystysgrif).
I gaffael neu i feddu arfau tanio neu fwledi a chetris o dan Adran 1 o Ddeddf Arfau Tanio 1968, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bod gennych reswm da dros wneud hynny.
Mae hyn yn berthnasol i roi, adnewyddu neu amrywio tystysgrif.
Gall y dystiolaeth hon fod ar sawl ffurf: mae’r enghreifftiau’n cynnwys caniatâd i saethu dros dir neu aelodau o glwb saethu targedau, neu archeb neu wahoddiad i hela carw, ond dyna’r unig enghreifftiau.
Rhowch gyfeiriad un darn o dir lle mae gennych ganiatâd i saethu, yn ogystal ag enw, cyfeiriad a rhif ffôn y person sydd wedi rhoi’r caniatâd hwnnw i chi, neu fanylion clwb a gymeradwyir gan y Swyddfa Gartref yr ydych yn aelod llawn ohono.
DS: Ni fyddwch o reidrwydd wedi eich cyfyngu i saethu dros y darn unigol hwnnw o dir, neu yn y clwb hwnnw.
Rwyf yn deall y bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir yn cael ei thrin yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a deddfwriaeth gysylltiedig. Rwyf yn deall y gellir rhannu’r wybodaeth ar fy ffurflen gais neu’r wybodaeth a ganfyddir wrth benderfynu ar y cais â’r canlynol: fy meddyg teulu, adrannau o’r llywodraeth, cyrff rheoleiddio neu asiantaethau gorfodi, a hynny wrth benderfynu ar y cais neu er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd neu’r heddwch.
Sylwer: Bydd unrhyw wybodaeth a rennir yn cael ei rhannu yn unol â phrotocolau rhannu data. Nid yw’r heddlu’n rhannu eich manylion personol ag ymgeiswyr eraill nac aelodau o’r cyhoedd, ac maen nhw’n trin gwybodaeth mewn cysylltiad â’r cais yn gyfrinachol. Serch hynny, dylai unigolion fod yn ymwybodol y gallai’r heddlu ddatgelu rhywfaint o wybodaeth yn unol â’r ddeddfwriaeth y cyfeirir ati uchod.