Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rhan o Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed-Powys, cynhaliwyd proses asesiad risg a oedd yn edrych ar debygolrwydd ac effaith digwyddiadau mawr a allai ddigwydd yn yr ardal.
Mae digwyddiadau’n syrthio i ddau gategori:
Rydym yn ystyried y peth gwaethaf a allai ddigwydd. Efallai na ddigwydd y pethau hyn o gwbl, neu os gwnânt, byddant ar raddfa lai, ond mae’n rhaid ystyried yr holl bosibiliadau wrth gynnal ein hasesiad.
Mae asesu risg yn ofyniad statudol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004. Mae’n broses barhaol sy’n cael ei hadolygu’n gyson. Bydd diweddariadau pellach yn ymddangos ar y wefan fel y bo’n ymarferol a phriodol.
Mae’r gofrestr yn cynnwys crynodeb o’r math o risgiau rydym yn eu hasesu yn ardal Dyfed Powys ar hyn o bryd. Am resymau diogelwch, ni fedrwn roi gwybodaeth fanwl. Am ragor o wybodaeth, ewch i Wales Resilience.