Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn gwario tua £18m y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau, gan roi amrywiaeth o gyfleoedd i gwmnïau o bob maint. Mae’r cyfrifoldeb ariannol dros gaffael nwyddau a gwasanaethau wedi'i ddatganoli i randdeiliaid priodol o fewn yr Heddlu, gyda'r adran gaffael yn cymryd cyfrifoldeb am Gaffael Strategol.
Ein gweledigaeth yw cael gwerth am arian drwy gaffael nwyddau, gwasanaethau a gwaith a fydd yn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau a diwallu anghenion swyddogion a staff.
Gwerth pryniant | Camau sydd angen eu cymryd |
Llai £5,000 | O leiaf un amcanbris |
£5,000 i £25,000 | O leiaf tri amcanbris |
£25,000 a throsodd | Proses dendro ffurfiol |
Bydd proses dendro’n dechrau os nad oes contractau addas neu gytundebau fframwaith sy’n bodoli eisoes yr ystyrir eu bod yn cynnig gwerth am arian. Gwneir hyn yn unol â'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol. Caiff tendrau cyhoeddedig ar gyfer nwyddau a gwasanaethau eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru a Contracts Finder. Gweler contractau a gyhoeddwyd gan Heddlu Dyfed-Powys ar wefan Cronfa Ddata Caffael Bluelight.
Rhybudd Pwysig i Gyflenwyr
Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â darparu a pherfformiad contractau yn dod o dan delerau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a gellir ei datgelu i drydydd partïon ar gais yn unol â thelerau'r ddeddf.
Faye Ryan
Pennaeth Caffael
Ebost: [email protected]