Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sefydlwyd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gan Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae’n nodi bod yn rhaid i awdurdod cyhoeddus, wrth arfer ei swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r angen i:
Y nodweddion gwarchodedig perthnasol fel y’u nodir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw: oed; anabledd; ailbennu rhywedd; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol.
Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) 2011 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod cyhoeddus gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol. Ceir hyd i wybodaeth mewn perthynas â Monitro Cyflogaeth Nodweddion Gwarchodedig drwy’r ddolen isod.
Mae gwybodaeth am gwynion ar gael ar dudalen gwe ein Hadran Safonau Proffesiynol.
Dydyn ni ddim yn dal data cyfanredol ar gyfer pob nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar hyn o bryd. Mae data cyfanredol yn cael ei ddal am Gyfeiriadedd Rhywiol a Chrefydd neu Gred mewn perthynas â rhai o’n harferion cyflogaeth a gwasanaethau. Ar ôl derbyn cyngor gan y Gymdeithas Genedlaethol Heddlu Trawsrywiol yn 2008, penderfynom yn erbyn casglu gwybodaeth am aelodau o staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth trawsrywiol, ar wahân i ddata sy’n berthnasol ar gyfer digwyddiadau neu droseddau casineb. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynghylch pa un ai a ddylid, a sut ddylid, casglu gwybodaeth mewn perthynas ag amrediad ehangach o arferion cyflogaeth a gwasanaethau, ac ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.