Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Beth yw cyrsiau NDORS?
Dewis amgen yn lle dirwy cosb benodedig a phwyntiau neu weithdrefnau llys yw cwrs Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Gyrwyr (NDORS). Os fyddwch chi’n cwblhau’r cwrs, ni chewch bwyntiau ar eich trwydded yrru, fodd bynnag, mae’n rhaid talu am y cwrs.
Mae saith cwrs NDORS:
Mae’r cyrsiau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Beth yw cynnwys y cyrsiau?
Lluniwyd y cyrsiau gan academyddion yn dilyn ymchwil trylwyr ac maen nhw’n rhoi cyfle ichi edrych ar arferion gyrru, eu trafod gydag eraill mewn amgylchedd hamddenol, ac archwilio i arferion gyrru da gyda hyfforddwr profiadol.
Mae’r cwrs Gyrru Diogel ac Ystyriol yn cynnwys sesiwn theori wedi’i dilyn gan sesiwn gyrru ar y ffordd dan oruchwyliaeth hyfforddwr gyrru cymeradwy. Bydd yr hyfforddwr yn darparu car, fodd bynnag, bydd angen ichi roi gwybod i’r darparwr cwrs ymlaen llaw os ydych chi’n gyrru car awtomatig neu os oes gennych anabledd sy’n effeithio ar eich gyrru neu addasiadau cerbyd.
Pwy sy’n cyflwyno’r cyrsiau?
Cyflwynir y cyrsiau gan Hyfforddwyr NDORS trwyddedig sy’n cael eu monitro a’u hasesu’n rheolaidd.
Ble mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal?
Mae’n bosibl y cewch gwblhau cwrs digidol drwy’r rhaglen Microsoft Teams, lle bydd hyfforddwr yn cyflwyno’r cwrs i chi a rhai unigolion eraill. Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, cewch fynd i un o’n canolfannau. Mae gennym ganolfannau mewn lleoliadau amrywiol ledled ardal Dyfed-Powys.
Cyrsiau rhyngweithiol ar-lein yw Eich Gwregys Eich Bywyd a Beicio Diogel ac Ystyriol. Mae dewis amgen all-lein ar gael os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd.
Beth yw pris y cwrs?
Mae’r gost yn dibynnu ar y cwrs a gynigiwyd ichi. Cyfeiriwch at y system Porthol Cynnig https://offer.ndors.org.uk am y ffi ar gyfer eich cwrs penodol a’ch darparwr cwrs o ddewis.
Beth yw’n ein disgwyliadau ohonoch wrth ichi gymryd rhan mewn cwrs?
Disgwyliwn ichi gwblhau’r cwrs yn foddhaol, sy’n golygu:
Bydd presenoldeb hwyr neu agwedd negyddol yn golygu na chewch gymryd rhan yn y cwrs a byddwch yn cael eich cyfeirio’n ôl i’r gwasanaeth heddlu a gynigiodd y cwrs ichi.
Bydd angen ichi ddangos prawf adnabod ffotograffig swyddogol i’r hyfforddwr cwrs.
Sut fedraf i archebu cwrs?
Rhaid eich bod chi wedi derbyn llythyr yn cynnig cwrs ichi gan wasanaeth heddlu, a fydd yn cynnwys dolen i’r Porthol Cynnig lle y medrwch archebu’ch cwrs ar-lein gyda’r darparwr o’ch dewis. Hefyd, dylech fod wedi derbyn rhestr o ddarparwyr cwrs gyda’ch cynnig cwrs os hoffech archebu dros y ffôn.
Bydd angen rhif eich trwydded yrru arnoch, ynghyd â rhif cyfeirnod yr heddlu a’r rhif PIN a nodir yn eich llythyr cynnig er mwyn archebu cwrs.
Os ydych chi eisiau archebu cwrs gyda Heddlu Dyfed-Powys, cewch archebu:
Hefyd, medrwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected] oes gennych unrhyw ymholiadau.
Os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, e.e. bwydo o’r fron, diffyg dealltwriaeth o’r Gymraeg/Saesneg ac ati, mae’n rhaid ichi gysylltu â ni dros y ffôn i archebu cwrs a thrafod eich anghenion.
Ble gaf i ragor o wybodaeth am y cynllun NDORS?
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i wefan NDORS ar www.ukroed.org.uk
Am ragor o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin mewn perthynas â mynychu cwrs digidol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, cyfeiriwch at Dyfed-Powys | UKROEd ar wefan NDORS.