Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae UKROEd, y sefydliad sy'n gyfrifol am reoli'r Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru (NDORS), yn rhoi cyfle i yrwyr a reidwyr gwblhau unrhyw un o'i gyrsiau newid ymddygiad yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae adborth yn awgrymu bod rhai siaradwyr Cymraeg yn gyndyn o ddewis yr opsiwn Cymraeg gan eu bod yn ofni y gallai'r iaith a ddefnyddir ar y cwrs fod yn rhy dechnegol neu academaidd iddynt.
Mae'r fideo wedi'i gynllunio i leddfu'r ofnau hyn ac i roi hyder i fwy o bobl wrth ddewis cwblhau cwrs yn Gymraeg.
Mae'r pedwar prif gwrs ar gyfer gyrwyr a reidwyr ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Dyma'r cyrsiau:
Gall gyrwyr a reidwyr gofrestru i fynd ar gwrs Cymraeg neu Saesneg pan fyddant yn archebu, yn ogystal â dewis mynd i sesiwn ystafell ddosbarth neu gwblhau'r cwrs ar-lein.
Meddai Iestyn Davies, Hyrwyddwr Iaith Gymraeg UKROEd:
"Mae'n ddigon posibl y bydd rhywun sydd angen mynd ar un o'n cyrsiau yn pryderu am fynd ar gwrs Cymraeg. Gyda'r fideo hwn rydym yn gobeithio lleihau’r pryderon hyn a sicrhau fod pobl sy'n mynd ar un o’n cyrsiau yn cael profiad mor gadarnhaol ag sydd bosibl.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud y gwahaniaeth hwnnw drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r fideo byr hwn yn esbonio sut rydym yn gwneud y cyrsiau'n hawdd eu dilyn a sut rydym yn osgoi defnyddio terminoleg gymhleth. Felly, os oes angen i chi fynd ar gwrs yn y dyfodol agos, byddwch chi'n gwybod y bydd croeso mawr i chi ar gwrs Cymraeg."