Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dim ond yr isafswm gwybodaeth bersonol sydd ei hangen arnynt y byddwn yn ei phrosesu er mwyn bodloni ein diben penodol. Y diben hwn yw pennu lle i unigolion ar gwrs Cynllun Cenedlaethol Ailhyfforddi Troseddwyr Gyrru (NDORS) a phrosesu’r archeb hwnnw.
Mae’r wybodaeth bersonol a fydd yn cael ei phrosesu’n cynnwys enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, rhif trwydded yrru, manylion talu ac unrhyw ofynion arbennig. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel, a dim ond y rhai sydd ei hangen fydd yn cael mynediad i’r wybodaeth hon.
Os ydych chi’n archebu cwrs o fewn ardal Heddlu Dyfed-Powys, bydd y wybodaeth rydych chi’n rhoi, gan gynnwys unrhyw ofynion arbennig, yn cael ei chofnodi ar y System Archebu Ar-lein ‘Fastform’ a ddarperir gan Clarity Information Solutions Cyf. Mae hyn yn caniatáu inni brosesu’ch archeb am le ar gwrs NDORS a hynny gan ichi gyflawni trosedd traffig yn groes i ddeddfwriaeth traffig ffyrdd.
Bydd eich data’n cael ei gadw ar y system archebu am flwyddyn ar ôl dyddiad eich cwrs.
- Hyfforddwyr cwrs – ar gyfer y diben o gofrestru ar gwrs, ac ar gyfer unrhyw ofynion arbennig gofynnol y gallai fod angen eu rhoi ar waith ddiwrnod eich cwrs.
- Tasg Gyhoeddus – mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn i ni berfformio tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer ein swyddogaethau swyddogol, ac mae ganddo sail gyfreithiol glir.
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol – mae’r prosesu’n angenrheidiol er mwyn i ni gydymffurfio â’r gyfraith.
Gweler Hysbysiad Preifatrwydd llawn yr Heddlu.
Gweler Hysbysiad Preifatrwydd DORS+.
Gweler Hysbysiad Preifatrwydd NDORS (UK ROEd).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd hwn, neu’r ffordd y mae’ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer y diben hwn, cysylltwch â’r Cynllun Ailhyfforddi Gyrwyr ar [email protected]