Cynllun Heddlu a Throseddu 2021 i 2025
Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu sy’n gyfrifol am lunio Cynllun Heddlu a Throseddu 2021 - 2025.
Mae'r cynllun yn helpu i nodi cyfeiriad a blaenoriaethau strategol Heddlu Dyfed-Powys, sef:
- Cefnogi dioddefwyr.
- Atal niwed.
- Sicrhau system gyfiawnder fwy effeithiol.
Mae’r cynnydd yn cael ei riportio bob chwarter yn y Bwrdd Atebolrwydd Plismona, sef cyfarfod cyhoeddus lle mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn yn dwyn y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis a’i dîm uwch i gyfrif.
Cynllun Cyflawni Heddlu Dyfed-Powys 2021 i 2025
Mae'r cynllun yn gosod yn glir ein nodau fel gwasanaeth ar gyfer 2021-2025 ac yn rhoi cyd-destun i'r ffordd y byddwn yn cyflawni’n blaenoriaethau fel gwasanaeth. Gweler yr adran lawrlwytho.
Cefnogi dioddefwyr
- Cofnodi troseddau yn gywir a darganfod dioddefwyr.
- Diogelu rhag niwed ac erledigaeth dro ar ôl tro.
- Gwrando ar farn dioddefwyr a rhoi profiad cadarnhaol iddynt beth bynnag fo'r canlyniad.
- Cyflawni ein rhwymedigaethau i’r Siarter Tystion a’r Cod Dioddefwyr.
- Comisiynu gwasanaethau i helpu dioddefwyr i ymdopi ac adfer eu hunain.
Atal niwed
- Gwasanaethau plismona gweladwy a rhagweithiol, yn y byd ffisegol a seiber.
- Mabwysiadu dulliau o ymyrryd a datrys problemau yn gynnar i fynd i'r
afael ag achosion sylfaenol troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Ymdrin â phroblemau sy’n achosi niwed cymunedol sylweddol, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn menywod a merched ac iechyd meddwl, o safbwynt iechyd cyhoeddus.
- Hyrwyddo dull o weithio sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn ac sy'n cydnabod pa mor agored i niwed yw plant a phobl ifanc er mwyn gwella eu cyfleoedd bywyd.
- Gwella diogelwch ar y ffyrdd drwy fynd i'r afael â phump achos pennaf
gwrthdrawiadau ac anafi adau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru (5 Angheuol).
Sicrhau system gyfiawnder fwy effeithiol
- Gwella ymchwiliadau troseddol o ran eu safon a’r amser a gymerir i’w cwblhau.
- Canlyniadau cyfiawnder troseddol mwy llwyddiannus, yn enwedig mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod a merched.
- Cydnabod pa mor agored i niwed yw plant yn y system cyfiawnder troseddol, fel dioddefwyr a rhai sy’n cyflawni trosedd.
- Llai o aildroseddu drwy ymyriadau wedi'u targedu a gorchmynion ataliol.
- Gwell ymddiriedaeth a hyder gan y cyhoedd yn y system cyfiawnder troseddol drwy ganfod barn dioddefwyr, cyflwyno cyfiawnder adferol priodol ac asesu anghymesuredd o fewn y system.
Lawrlwytho