Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Oherwydd natur wledig yr ardal hon, mae nifer o heriau unigryw yn wynebu’r heddlu. Rhaid ystyried pethau y mae heddluoedd eraill o bosib yn cymryd yn ganiataol, ee y pellter sy’n rhaid teithio i ddigwyddiadau yn ogystal â natur y cymunedau sy’n cael eu gwarchod gennym. Mae’n golygu hefyd bod gennym y lefelau isaf o droseddu yn unlle ar draws Cymru a Lloegr, a’n bod yn gallu rhoi ein cymunedau wrth galon yr hyn a wnawn.
Mae gennym nifer o gynlluniau ar y gweill i ddarparu cyngor atal trosedd perthnasol, e.e. Gwarchod Ffermydd a Cheffylau. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac mae gennym swyddog bywyd gwyllt penodol.
Mae’r holl waith rydyn ni'n gwneud er mwyn gwella’r ffordd rydyn ni’n diogelu’n cymunedau gwledig yn cael ei ddwyn ynghyd yn ein Strategaeth Plismona Gwledig newydd. Datblygwyd y strategaeth mewn ymgynghoriad ag undebau ffermwyr, grwpiau cymunedol amrywiol, elusennau a phobl eraill sydd wedi mynegi diddordeb mewn plismona ardaloedd gwledig.
Mae’n canolbwyntio ar bedwar maes – atal, cudd-wybodaeth, gorfodi a sicrwydd. Mae gan bob un rhestr o bethau fydd yn cael eu gwneud sy’n cynnwys: - pecynnau atal trosedd â gwybodaeth am yr hyn y gall pobl wneud er mwyn cadw eu hunain a’u heiddo’n ddiogel; gwell defnydd o gynlluniau gwarchod megis Gwarchod Ffermydd a Gwarchod Cymdogaeth; gwell defnydd o gyfryngau cymdeithasol a rhannu mwy o straeon â’r cyfryngau lleol a’r gymuned yn uniongyrchol; mynd i lefydd lle y mae pobl yn ymgasglu a siarad â nhw yn ogystal â chynnal cyfarfodydd yn swyddfeydd unedau amaethwyr, grwpiau a busnesau lleol, a gwell defnydd o orsafoedd heddlu symudol newydd.