Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r ardal a wasanaethir gan Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Rydyn ni’n gwasanaethu dros 515,000 o bobl, sy’n cynyddu’n sylweddol gyda thwristiaid bob blwyddyn. Mae bron hanner poblogaeth yr ardal yn 45 oed a hŷn, ac mae 22% dros 65 oed.
Mae 32% o’n cymunedau’n medru siarad Cymraeg: 18.6% ym Mhowys, 47.4% yng Ngheredigion, 43.9% yn Sir Gaerfyrddin a 19.3% yn Sir Benfro.
Mae gan yr ardal dros filiwn hectar o dir amaethyddol, dros 350 milltir o arfordir, ac mae’n ymestyn o Dyddewi yn y gorllewin i Grucywel yn y dwyrain, ac i fyny i’r Trallwng a Machynlleth yn y Gogledd.