Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr Adran Safonau Proffesiynol sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan y cyhoedd ynghylch Heddweision, Staff yr Heddlu neu Gwnstabliaid Gwirfoddol.
Maent hefyd yn ymchwilio i honiadau o gamymddwyn difrifol yn ymwneud â Heddweision neu Gwnstabliaid Gwirfoddol. Yn ogystal â delio â chwynion, mae’r Adran Safonau Proffesiynol hefyd yn cyfleu canmoliaeth i’r bobl berthnasol.
Ar y 1af o Ragfyr 2008 cyflwynwyd Safonau Ymddygiad Proffesiynol newydd i Swyddogion yr Heddlu ar draws Cymru a Lloegr.
Mae’r Safonau’n adlewyrchu’r disgwyliad sydd gan wasanaeth yr heddlu a’n cymunedau lleol ynghylch y modd y dylai swyddogion yr heddlu ymddwyn boed hwy ar ddyletswydd neu beidio. Mae hyder y cyhoedd yn yr heddlu’n dibynnu ar swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu’n dangos y lefelau uchaf o ran safonau ymddygiad proffesiynol.
Mae’r safonau’n cynnwys:-
Mae’r Safonau a amlinellir uchod yn galluogi pawb i wybod pa fath o ymddygiad gan swyddog yr heddlu neu aelod o staff yr heddlu sy’n dderbyniol. Os ydych yn credu bod ymddygiad swyddog yr heddlu neu aelod o staff yr heddlu’n annerbyniol, rydym yn eich gwahodd i gysylltu â ni gysylltu â ni.
Datblygodd y Coleg Plismona y Cod Moeseg ar ran pob aelod o broffesiwn plismona Cymru a Lloegr. Cynhaliwyd y gwaith gan Raglen Cywirdeb y Coleg mewn cysylltiad ag arweinwyr plismona cenedlaethol ar gyfer Safonau Proffesiynol a Moeseg ac amryw o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys Prif Gwnstabliaid, CHTh, cyrff arolygiaeth ac undebau llafur, ac ymarferwyr heddlu.
Mae’r Coleg Plismona wedi cyhoeddi’r Cod Moeseg fel cod ymarfer o dan adran 39A o Ddeddf Heddlu 1996 (fel y’i diwygiwyd gan adran 124 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014).
Nod y Cod Moeseg yw cefnogi pob aelod o’r proffesiwn plismona i gyflwyno’r safonau proffesiynol uchaf yn eu gwasanaeth i’r cyhoedd ac mae’n God Ymarfer ar gyfer Egwyddorion a Safonau Ymddygiad Proffesiynol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Coleg Plismona wedi nodi naw egwyddor plismona sy’n seiliedig ar egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, gyda ‘Tegwch’ a ‘Parch’ wedi’u hychwanegu.
Y naw egwyddor plismona yw:
Mae’r egwyddorion hyn yn tanategu ac yn cryfhau gweithdrefnau a rheoliadau sy’n bodoli eisoes ar gyfer sicrhau safonau ymddygiad proffesiynol ar gyfer swyddogion a staff yr heddlu.
Mae hyn yn rhoi hyder i’r proffesiwn a’r cyhoedd bod system mewn grym ar gyfer ymateb yn briodol os oes unrhyw un yn credu nad yw disgwyliadau’r Cod Moeseg wedi’u bodloni.
Nid fydd torri’r Cod Moeseg bob tro’n golygu camymddwyn na bod angen gweithdrefnau disgyblu.
Bydd achosion o dorri’r cod yn amrywio o fân ddiffygiadau mewn ymddygiad, perfformiad neu bresenoldeb i lygredd a chamymddwyn difrifol.
Mae gweithdrefnau gwahanol yn bodoli yn unol â’r math o gamymddwyn neu ymddygiad amhroffesiynol a honnir.