Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Gary â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Awst 1996. Ei orsaf gyntaf oedd Caerfyrddin. Gweithiodd yno fel cwnstabl heddlu tan 2000, cyn trosglwyddo i CID Rhydaman. Yn 2002, fe’i dyrchafwyd i reng Rhingyll, ac yna i reng Arolygydd yn 2006, gan gyflawni rolau Ditectif Arolygydd yn y swyddogaethau cudd-wybodaeth a CID. Yn 2013, dyrchafwyd Gary i’r Uned Ranbarthol Troseddu Trefnedig (Tarian) lle y gweithiodd fel Ditectif Brif Arolygydd ac fel Ditectif Uwch-arolygydd Dros Dro.
Dychwelodd Gary i Ddyfed-Powys yn 2016 a chafodd ei ddyrchafu’n Dditectif Uwch-arolygydd ym mis Gorffennaf 2017, gan sicrhau achrediad PIP3 (Uwch Swyddog Ymchwilio) a PIP 4 (Rheoli Achosion Cymhleth yn Strategol).
Ym mis Ionawr 2021, daeth Gary’n Gomander URS ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ac yn 2022, daeth yn bennaeth CID yr Heddlu.
Ym mis Gorffennaf 2024, dyrchafwyd Gary’n Brif Gwnstabl Cynorthwyol dros dro.
Mae Gary’n byw yn Sir Gaerfyrddin gyda’i wraig a’u dau o blant.
Yn ei amser hamdden, mae Gary’n mwynhau cadw’n heini. Mae’n gricedwr brwd, ac yn y gorffennol, mae wedi cynrychioli Tîm Heddlu Prydain. Y mae hefyd wedi hyfforddi criced iau ar lefel leol a rhanbarthol ers sawl blwyddyn.