Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Louise â Heddlu Dyfed-Powys yn 2001 a chafodd ei hanfon i Lanelli. Yno, ymunodd â’r Adran Ymchwiliadau Troseddol, gan hyfforddi fel cyfwelydd arbenigol achrededig ac ymgynghorydd cyfweliad. Gwasanaethodd Louise yn Sir Gaerfyrddin am 11 mlynedd fel Ditectif Ringyll ac o fewn Plismona Lifrog. Gweithiodd Louise ar nifer o ymchwiliadau mawr ledled yr heddlu.
Ar ôl dychwelyd o’i chyfnod mamolaeth cyntaf yn 2015, dyrchafwyd Louise yn Dditectif Arolygydd, gan weithio yn Adran Safonau Proffesiynol yr heddlu a Diogelu’r Cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin.
Ar reng Prif Arolygydd, dychwelodd Louise i’w sir enedigol, Sir Benfro, gan dderbyn cyfrifoldeb am blismona Bro ac Ymateb. Yma, daeth yn Gomander Arfau Saethu Tactegol profiadol ac yn Reolwr Ôl-ddigwyddiad.
Yn 2022, dychwelodd Louise i weithio ym Mhencadlys yr Heddlu yn y Ganolfan Atal Ganolog a nawr fel Uwch-arolygydd Dros Dro yr Uned Gwella Gwasanaeth, gan fod yn gyfrifol am Berfformiad a Dadansoddeg, Cofrestrydd Troseddau a Digwyddiadau’r Heddlu, cyswllt AHGTAEF, a Llywodraethu a Newid.
Bellach, mae Louise yn Gomander Arfau Saethu Strategol achrededig.
Louise yw arweinydd yr heddlu ar gyfer cefnogi rhieni ac mae’n eistedd ar grŵp cenedlaethol sy’n datblygu canllawiau ac arfer gorau ar gyfer heddluoedd.
Tu allan i’r gwaith, cedwir Louise yn brysur gyda bywyd teuluol â’i dau o blant, sy’n 7 a 9 oed, a’i hastudiaeth Meistr.