Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dechreuodd Stuart ei yrfa yn y maes plismona gyda Heddlu De Cymru yn 2002, gan weithio yn ardal Bro Morgannwg.
Yn 2007, symudodd i Sir Benfro a dechreuodd ei yrfa gyda Heddlu Dyfed-Powys, gan wasanaethu fel Cwnstabl yn Aberdaugleddau i gychwyn, cyn ymgymryd â dyletswyddau Rhingyll yn Noc Penfro a Hwlffordd.
Symudodd Stuart i Sir Gaerfyrddin yn 2009 fel Rhingyll ymateb yn Llanelli. Aeth ymlaen i wasanaethu’r sir mewn rolau Rhingyll eraill, fel Arolygydd ar gyfer adrannau Rhydaman a Chaerfyrddin, ac yn ddiweddarach fel y Prif Arolygydd Gweithrediadau ar gyfer y sir. Y mae hefyd wedi mwynhau sawl rôl ym Mhowys a Phencadlys yr Heddlu, lle mae’n gweithio ar hyn o bryd fel Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol.
Mae Stuart yn briod ac mae ganddo dri o blant. Mae’n mwynhau rhedeg a beicio mynydd, ac mae’n arweinydd yn ei eglwys leol.