Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daw Edwin o Aberaeron, Ceredigion. Mynychodd Brifysgol Bangor yn 1986 gan raddio ag anrhydedd yn 1989 mewn Cyfrifeg a Chyllid. Gweithiodd fel Cyfrifydd Dan Hyfforddiant yng Nghyngor Sir Dyfed rhwng 1989 a 1995 gan ennill y cymhwyster CIPFA ym mis Ebrill 1994.
Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys fel Cyfrifydd yr Heddlu ym mis Chwefror 1995 ac fe’i dyrchafwyd yn Bennaeth Rheoli Ariannol yn 2002. Yn 2005, fe’i secondiwyd i weithio o Orsaf Heddlu Aberhonddu ar adeg uno arfaethedig yr Heddluoedd fel rhan o Dîm Canolog Cymru, a bu’n gysylltiedig ag agweddau ariannol cydweithio ers hynny.
Bellach, mae Edwin yn byw yn Nhre Ioan, Sir Gaerfyrddin, gyda’i wraig, Lya, a’u dau o blant. Mae’n olffiwr brwd, ac mae’n mwynhau chwarae pêl droed pum bob ochr yn ogystal â dilyn pêl droed, rygbi yng Nghymru, a’r rhan fwyaf o chwaraeon.