Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Huw â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth 1995. Ei orsaf gyntaf oedd Aberteifi, lle bu’n gweithio fel Cwnstabl a Ditectif Gwnstabl. Yn 2001, cafodd ei ddyrchafu’n Rhingyll yn Sir Gaerfyrddin. Yno, cyflawnodd rolau mewn lifrai a gyda CID.
Yn 2008, cafodd ei ddyrchafu’n Dditectif Arolygydd yn Sir Gaerfyrddin, lle bu’n gweithio ar ymchwiliadau, perfformiad, cudd-wybodaeth a throseddau difrifol ar raddfa fawr. Yn 2016, ymunodd Huw â’r Uned Ranbarthol Troseddu Trefnedig (Tarian) lle y gwasanaethodd fel Ditectif Brif Arolygydd a Ditectif Uwch-arolygydd (Pennaeth Uned). Yn ystod y cyfnod hwn, enillodd brofiad helaeth a gwerthfawr mewn ymchwiliadau cudd a throseddau difrifol ar raddfa fawr.
Dychwelodd i’r heddlu yn 2018 fel Ditectif Uwch-arolygydd gyda chyfrifoldeb dros ymchwiliadau. Ymgymerodd â’i swydd fel Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol ym mis Ebrill 2019.
Cyn ymuno â’r heddlu, bu Huw’n fyfyriwr yn Athrofa De Morgannwg a Choleg y Drindod, lle cafodd radd BA (Anrh) a chymhwyster dysgu.