Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrfa Jon wedi bod yn amrywiol. Dechreuodd ei wasanaeth gyda Heddlu De Cymru, gan weithio yn y meysydd plismona bro, ymateb ac ymchwilio. Trosglwyddodd Jon i’r Heddlu Metropolitanaidd yn 2009. Yn ystod ei gyfnod yno, gweithiodd Jon mewn nifer o rolau o fewn Unedau Rheoli Gweithredol heriol Bwrdeistref San Steffan, Southwark a Lambeth.
Ym mis Ionawr 2014, trosglwyddodd Jon i Heddlu Dyfed-Powys fel Dirprwy Gomander URS ym Mhowys. Yn 2016, aeth Jon ar secondiad byr i AHGTAEM fel rhan o dîm Arolygu PEEL.
Dyrchafodd Jon i fod yn Uwch-arolygydd fel Comander URS Powys ym mis Rhagfyr 2016, ac ym mis Ebrill 2019, cymerodd yr awenau fel Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol.
Yn gynnar yn 2020, roedd Jon yn gyfrifol am ymateb yr heddlu i’r pandemig COVID-19 fel arweinydd aur. Ym mis Mai 2020, fel Prif Uwch-arolygydd, cychwynnodd Jon ei swydd fel Pennaeth Plismona Lifrog, gan arwain dros 1000 o swyddogion a staff mewn pedair ardal blismona leol. Roedd gan Jon gyfrifoldeb strategol dros Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu, Plismona Bro a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth hefyd.
Mae Jon yn gomander Aur achrededig mewn disgyblaethau rheoli digwyddiadau amlasiantaeth, Arfau Saethu Arbenigol, Cemegol, Biolegol, Radiolegol neu Niwclear a Threfn Gyhoeddus, ac mae wedi arwain yr ymateb i nifer o ddigwyddiadau mawr ac argyfyngus.
Mae Jon yn Gymrawd gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig a’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac mae’n Rheolwr Siartredig. Mae gan Jon radd BSc (Anrh) mewn Plismona ac MBA o Brifysgol De Cymru, yn ogystal ag MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth o Brifysgol Plymouth.
Ym mis Mai 2023, penodwyd Jon i’w swydd bresennol fel Pennaeth Cyfiawnder Troseddol a Dalfeydd.