Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Richard yw Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys. Dechreuodd y swydd ym mis Rhagfyr 2021. Cyn hynny, Richard oedd Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland.
Daw Richard o Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru yn wreiddiol, ac ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2000.
Mae Richard wedi gweithio mewn amryw o rolau mewn lifrai a gyda CID yn ogystal â gweithio fel Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol, a Chadeiriodd Weithgor Gwrth-lygredd Cymru. Y mae wedi gwasanaethu ym mhob rheng hyd at (a chan gynnwys) Dirprwy Brif Gwnstabl gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Yn 2010, sicrhaodd Richard Ysgoloriaeth Fulbright, sef rhaglen addysgol arobryn, ym Mhrifysgol Talaith Pennsylvania, lle yr astudiodd y defnydd o ynnau Taser sy’n arwain at ddigwyddiadau andwyol. Cynhaliwyd y gwaith hwn mewn asiantaethau plismona mor amrywiol ag adrannau heddlu Dallas, Seattle ac Efrog Newydd. Treuliodd y rhan fwyaf o’i amser yn yr Unol Daleithiau’n gweithio gydag Uned Gwasanaeth Brys Adran Heddlu Efrog Newydd yn Brooklyn.
Mae Richard hefyd wedi bod yn olygydd gwadd ar gyfer y rhaglen ‘Today’ ar BBC Radio 4 a gwasanaethodd fel Cymrawd o’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Mae Richard yn dal dau bortffolio Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, gan arwain ar Gyffuriau a Pherfformiad yr Heddlu, a chafodd ei radd PhD gyda Phrifysgol Sba Caerfaddon, gan astudio rheoli newid.