Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan yr Uwch-arolygydd Dros Dro Andy Pitt 27 mlynedd o brofiad gyda Heddlu Dyfed-Powys. Dechreuodd yn Noc Benfro, cyn symud i Sir Gaerfyrddin. Yno, bu’n gweithio yn Llanelli, Llwynhendy a Rhydaman.
Yn 2001, cafodd ei ddyrchafu’n Rhingyll yn y Trallwng.
Y mae wedi aros ym Mhowys byth ers hynny, ac mae wedi gweithio ym mhob un o’r prif orsafoedd yn y Drenewydd, Llandrindod, Ystradgynlais ac Aberhonddu.
Am ran fawr o’i yrfa, roedd Andy’n Ymgynghorydd Chwilio’r Heddlu, ac yn gyfrifol am arwain ymgyrchoedd chwilio’n ymwneud â gwrthderfysgaeth, troseddau difrifol ac unigolion coll.
Cyn ymuno â’r heddlu, enillodd Andy radd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Plymouth. Yn wreiddiol o Gastell-nedd, mae Andy nawr yn byw yn Aberhonddu gyda’i wraig a’u tri o blant.