Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Gary â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Awst 1996. Ei orsaf gyntaf oedd Caerfyrddin. Gweithiodd yno fel cwnstabl heddlu tan 2000 pan drosglwyddodd i CID Rhydaman. Yn 2002, fe’i dyrchafwyd i reng Rhingyll, ac Arolygydd yn 2006, lle y cyflawnodd rolau Ditectif Arolygydd yn y swyddogaethau cudd-wybodaeth a CID.
Yn 2013, ar ôl cyfnod yn gweithio fel Rheolwr Perfformiad yr heddlu, dyrchafwyd Gary i’r Uned Ranbarthol Troseddu Trefnedig (Tarian) lle y gweithiodd fel Ditectif Brif Arolygydd ac fel Ditectif Uwch-arolygydd Dros Dro. Yn ystod y cyfnod hwn, enillodd brofiad mewn rheoli troseddu trefnedig difrifol ac ymchwiliadau cudd.
Dychwelodd Gary i Heddlu Dyfed-Powys yn 2016 fel Ditectif Brif Arolygydd. Yr oedd yn gyfrifol am siroedd Powys a Sir Gaerfyrddin.
Ymgymerodd Gary â’r rôl Ditectif Uwch-arolygydd Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth ym mis Gorffennaf 2017, ac ym mis Rhagfyr 2019, daeth yn arweinydd Ymchwiliadau CID. Mae Gary’n Uwch Swyddog Ymchwilio PIP 3 ac mae ganddo achrediad PIP 4 mewn Rheolaeth Strategol Achosion Cymhleth.
Ym mis Ionawr 2021, daeth Gary’n Gomander Ardal Plismona Leol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Mae Gary’n byw yn Sir Gaerfyrddin gyda’i wraig a’i ddau blentyn.