Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Ross â Heddlu Dyfed-Powys yn 2002, ac fe’i anfonwyd i Lanelli i ddechrau. Ers hynny, y mae wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau ledled yr ardal heddlu mewn lifrai, gyda CID, ac mewn adrannau canolog. Mae’r rhain yn cynnwys cudd-wybodaeth, gweithrediadau arbenigol, rheoli troseddwyr, gwasanaethau corfforaethol a phlismona bro.
Cafodd ei ddyrchafu’n Brif Arolygydd yn 2014, ac mae wedi gwasanaethu fel Uwch-arolygydd ers 2017.
Yn ogystal â gweithio yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gwasanaethodd Ross Sir Benfro fel Ditectif Brif Arolygydd ac Uwch-arolygydd am flynyddoedd lawer.
Y mae wedi goruchwylio ymchwiliadau’r heddlu, troseddau mawr a phlismona cudd fel Ditectif Uwch-arolygydd, ac yn y gorffennol, bu’n Uwch Swyddog Ymchwilio ar gyfer ymchwiliadau mawr a herwgipio.
Y mae’n gomander aur ac arfau saethu profiadol sy’n arwain ar Atal ac Iechyd Meddwl ar gyfer yr heddlu.
Cwblhaodd Ross ymlyniad gyda Heddlu Dinas Llundain yn ystod y Jiwbilî Diemwnt a Gemau Olympaidd 2012.
Mae ganddo radd BA o Brifysgol y Drindod Dewi Sant a gradd MsC mewn Arweinyddiaeth yr Heddlu o Brifysgol Warwick.
Mae Ross yn ymfalchïo o fod wedi derbyn y swydd Uwch-arolygydd Ceredigion ym mis Mehefin 2022, ar ôl gweithio yn y sir fel Prif Arolygydd a Ditectif Uwch-arolygydd yn flaenorol.