Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Daw Clark o Lanelli. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys yn 2004 ar ôl graddio â gradd yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe.
Y mae wedi gweithio mewn amryw o rolau ar draws plismona lifrog, CID a Diogelu’r Cyhoedd, gan gynnwys swyddi Ditectif Ringyll a Ditectif Arolygydd. Y mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig â dwy raglen newid sefydliadol ac roedd yn Swyddog Staff ar gyfer tri Phrif Gwnstabl blaenorol.
Yn 2017, dyrchafwyd Clark yn Brif Arolygydd gyda chyfrifoldeb am blismona bro ac ymateb yn Sir Gaerfyrddin. Ar ôl hynny, daeth yn Bennaeth Rheoli Digwyddiadau a Chyswllt yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu. Yn ystod yr amser hwn, cymhwysodd fel Comander Arfau Saethu Tactegol arbenigol.
Clark oedd y Comander Arian ar gyfer Ymgyrch Talla, gan arwain ymateb tactegol yr Heddlu i’r pandemig COVID-19.
Cafodd ei ddyrchafu’n Uwch-arolygydd ym mis Mai 2020 fel Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol. Yn 2022, daeth yn Gomander APL dros Sir Gaerfyrddin.
Ym mis Mehefin 2023, dyrchafwyd Clark yn Brif Uwch-arolygydd, ac mae’n gyfrifol am blismona lifrog yn ardaloedd Dyfed a Phowys.
Mae Clark yn briod; mae ganddo un mab, a dwy ferch sy’n efeilliaid.