Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein hardal hardd fan hyn yn Nyfed-Powys yn cyflwyno heriau unigryw i ni’r heddlu – ac un o’r heriau hynny yw nifer y safleoedd treftadaeth yn ein hardal. Nid yw’n gyfrinach bod pobl yn teithio milltiroedd i ymweld â’r adeiladau hanesyddol, cofadeiladau, safleoedd archeolegol pwysig, a’r tirweddau gwarchodedig fan hyn, ac mae’n bwysig ein bod ni’n diogelu’r rhain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn anffodus, nid pawb sy’n parchu’r safleoedd hanesyddol hyn, llawer ohonynt yn henebion cofrestredig neu’n adeiladau rhestredig sy’n derbyn diogelwch ychwanegol dan y gyfraith. Mae enghreifftiau o droseddau sy’n medru effeithio’n ddifrifol ar safleoedd treftadaeth yn cynnwys y canlynol:
Yr ydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn sy’n effeithio ar safleoedd treftadaeth, gan gynnwys Cadw, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Yn ogystal, mae gennym swyddogion penodol sy’n arwain ar ein gwaith i amddiffyn y safleoedd hyn – yr Arolygydd Reuben Palin a’r Rhingyll Matthew Langley.
Os oes digwyddiad sy’n ymwneud â safle treftadaeth yn mynd rhagddo nawr, galwch ni ar 999.
Os oes gennych wybodaeth am rywbeth sydd wedi digwydd i safle treftadaeth, medrwch roi gwybod inni ar-lein, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org.
Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, medrwch gysylltu â ni drwy neges destun ar 07811 311 908.