Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yng Nghanolfan Argyfwng Teulu Maldwyn, rydym yn cynnig gwasanaeth cam-drin domestig wedi’i deilwra gydag ymateb a arweinir gan risg a hysbysir gan drawma i bob cleient a’i deulu. Rydym yn nodi ac yn mynd i’r afael â risg, gan roi’r cynlluniau diogelwch gofynnol ar waith i’w cadw’n ddiogel. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag asiantaethau partner i rymuso a gwarchod ein cleientiaid.
Mae Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn yn cynnig cymorth i bawb sy’n profi cam-drin domestig, waeth beth yw eu hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhyw, tarddiad cenedlaethol, anabledd, oed, amgylchiadau ariannol neu gredoau.
Mae Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn yn darparu lloches argyfwng dros dro brys i deuluoedd sy’n dianc rhag cam-drin domestig. Rydym yn rheoli 4 eiddo. Eiddo a rennir yw 2, sef Yr Hafan ar gyfer menywod a phlant a Thŷ Davis ar gyfer dynion a phlant. Uned wasgaredig ar gyfer un teulu, naill ai gwryw neu fenyw, yw Tŷ’r Ddôl. Hefyd, mae gennym ail uned wasgaredig, sef Tŷ Coed, sydd wedi’i lleoli ar dir y lloches bresennol ar gyfer benywod a rennir, ar gyfer teuluoedd benywaidd nad ydynt o bosibl yn medru cael mynediad i lety a rennir.
Mae’r tîm estyn allan ar gyfer oedolion yn cefnogi cleientiaid sydd wedi profi cam-drin domestig, ar sail un-i-un, ar draws Sir Drefaldwyn gyfan, sy’n ymestyn dros 839 milltir sgwâr o Ogledd Powys, sy’n ardal wledig yn bennaf.
Mae’r cymorth hwn wedi’i deilwra’n cynnwys asesu risg, cynllunio diogelwch, cymorth un-i-un gyda phob cysylltiad a chyfarfod statudol, cyfarfodydd lles gyda the, siarad a gwrando, cynrychiolaeth mewn Trafodaethau Dyddiol a Chynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg, a phartneriaeth agos â sefydliadau cam-drin domestig a’r gwasanaeth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig Dal i Godi.
Mae’r Tîm Allgymorth Plant a Phobl Ifainc yn cefnogi plant a phobl ifainc sy’n profi cam-drin, neu sydd wedi ei brofi, o fewn eu teulu neu eu perthynas eu hun. Maen nhw’n darparu cyfarfodydd un-i-un, sydd fel arfer yn digwydd yn lleoliad addysg yr unigolyn ifanc, gan asesu risg, cynllunio diogelwch a chyflenwi chwarae therapiwtig gydag amser i siarad, y Dechneg Rhyddid Emosiynol a rhaglenni grŵp.
Mae grwpiau a chlybiau Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch yn cynnig amgylchedd hwyliog a hamddenol, ond eto’n ddiogel a chyfrinachol, sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifainc archwilio i’w teimladau ynghylch cam-drin domestig. Mae pynciau’n cynnwys deall cam-drin domestig, teimladau, diogelwch, dicter, perthnasau iach a chadernid.
Mae Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn hefyd yn cynnig rhaglenni cam-drin domestig arbenigol ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan gam-drin domestig, neu’n ei brofi, naill ai mewn grŵp neu sesiynau un-i-un. Mae’r rhain yn cynnwys y Rhaglen Rhyddid, y pecyn offer Adfer a’r cwrs Own My Life, sy’n helpu menywod i ailennill perchnogaeth o’u bywydau eu hun ar ôl iddynt ddioddef trais/cam-drin.
Rydyn ni’n cynnig y Rhaglen Cwmpawd, sy’n rhoi cyfle i ddioddefwyr gwrywaidd gwrdd a siarad mewn man diogel am eu profiadau. Mae’n anelu i helpu i wella lles meddyliol a rhoi cyfle i ddeall beth sydd wedi digwydd.
Rydyn ni hefyd yn cynnig Break4Change, sef rhaglen sy’n cefnogi rhieni/gofalwyr a phobl ifainc i adeiladu perthnasau iach, ac mae’n ymateb i’r broblem o blant yn cam-drin rhieni a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod oedolion, plant a phobl ifainc.
Cysylltu
01686 629114 (Rhif Llinell Gymorth 24 awr)
https://www.familycrisis.co.uk/