Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cŵn yr heddlu yn help mawr i’r gwasanaeth heddlu. Maent yn helpu taclo trosedd drwy ddod o hyd i bobl dan amheuaeth neu bobl sydd ar goll, darganfod eiddo coll neu eiddo sy wedi cael ei ddwyn yn ogystal â bod yn ddefnyddiol iawn wrth reoli anrhefn gyhoeddus.
Mae llawer o ofal ac ystyriaeth yn cael ei roi wrth ddewis cŵn i weithio gyda’r heddlu. Mae hi’n hanfodol bod natur da gyda’r cŵn. Mae angen iddynt hefyd fod yn ffit yn gorfforol, yn chwilfrydig, yn gyfarwydd â phobl a chŵn eraill, yn eofn, perchen ar ysgogant cryf ac yn awyddus i chwarae ac ymwneud â phobl. Mae’r rhan fwyaf o gŵn yr heddlu yn cael eu ‘rhoi’ gan aelodau o’r cyhoedd. Mae rhai yn cael eu prynu yn gŵn ifanc neu gŵn bach a daw rhai eraill o ganolfannau achub. Maent yn cael eu hasesu am gyfnod er mwyn sicrhau eu bod yn addas.
Seilir yr hyfforddiant ar chwarae a chynyddir yr ymarferion yn araf deg dros gyfnod gan roi’r pwyslais ar gael hwyl a gwobrwyo’r ci. Gydol yr hyfforddiant, mae doniau naturiol y ci yn cael eu hadnabod, eu hannog a’u gwella. Mae galluoedd naturiol cŵn yn sail i lawer o’r ymarferion hyfforddiant cŵn yr heddlu, gan gynnwys eu greddf i weld y trinwyr yn arweinydd y gnud.
Mae ci’r heddlu yn cael ei wobrwyo a’i ganmol am ei waith caled ac yn cael bwyd da, gofal, ymarfer corfforol a’i warchod. Ar ôl cwblhau’r cwrs cychwynnol, bydd y ci a’r triniwr yn cael eu hasesu. O gyrraedd y safonau gofynnol, cânt eu trwyddedu i weithredu fel tîm.
Mae pob ci’r heddlu yn cael ei gadw yng nghartref y triniwr i sicrhau cynnal eu perthynas agos. Byddan nhw bob amser yn treulio gwyliau gyda’r triniwr, naill ai adref neu yng nghytiau cŵn yr heddlu. Yn ystod dyletswyddau gweithrediadol, mae’r ci yn byw yn fan yr heddlu sydd wedi cael ei addasu’n arbennig i sicrhau bod y ci’n ddiogel ac yn gyfforddus. Maen nhw’n cael dŵr ac ymarfer yn rheolaidd gan eu trinwyr.
Mae ymwelwyr lleyg yn edrych ar gyflwr yr amgylchiadau byw, cyflwr yr anifeiliaid, a’r perthynas rhwng y triniwr a’r ci. Byddant naill ai’n trefnu ymweliadau gyda’r trinwyr cŵn neu fynd i edrych ar y cŵn heb roi rhybudd ymlaen llaw.
Mae cŵn yn cael eu hasesu yn ôl pum prif faen prawf:
Byddant yn rhoi adroddiad i’r Prif Arolygydd Gweithrediadau, a chaiff pob argymhelliad ei ystyried o ddifrif a’i weithredu os bydd yn briodol.
I gael hyd i wybodaeth am ddod yn ymwelydd lleyg gwirfoddol, galwch 01267 226440 neu e-bostiwch ni.
Os ydych yn berchen ar gi ac yn ystyried y byddai’n addas ar gyfer gwaith gyda’r heddlu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Yn ddelfrydol byddai cŵn sydd yn cael eu rhoddi rhwng 10 mis a dwy flwydd oed; yn eofn ac yn hyderus heb fod yn rhy ymosodgar; byddai gyda nhw natur ddeallus, chwilfrydig a byddent yn fodlon chwarae gyda thegan.
Fydd hi ddim yn bosib bob tro i’r triniwr gadw ei gi ar ôl i’r anifail ymddeol. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn ail-gartrefu ci, cewch adael eich manylion gyda ni. E-bostiwch neu galwch 0845 330 2000 a gofyn am yr adran cŵn.