Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Safonau’n egluro sut y disgwylir i sefydliadau ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod fframwaith cyfreithiol er mwyn cyflwyno dyletswydd ar rai sefydliadau i gydymffurfio â safonau ymddygiad ar y Gymraeg. Mae’r Safonau yn safoni darpariaeth y gwasanaeth Cymraeg ar draws yr heddlu er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion ein cyhoedd, yn ogystal â’n gweithwyr.
Ar y 30ain o Fedi 2016, cyflwynwyd Hysbysiad Cydymffurfio i Heddlu Dyfed-Powys (y Llu) a ofynnodd i’r Heddlu gydymffurfio â nifer o safonau o ran y Gymraeg mewn perthynas â Chyflwyno Gwasanaeth, Materion Gweithredol, Creu Polisïau a Chadw Cofnodion.
Bydd y Safonau’n sicrhau bod y cyhoedd yn cael cyfle i gyfathrebu â ni a chael gwasanaeth gennym drwy gyfrwng y Gymraeg lle bynnag sydd yn bosib. Bydd Gweithwyr yr Heddlu hefyd yn elwa – Cymry Cymraeg drwy gael mwy o gyfle i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg drwy gael mwy o gyfleoedd i ddysgu’r iaith.
Gellir dod o hyd i bob un o'r Safonau yn yr hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r Heddlu ynghyd ag esboniad o'r hyn a wnawn i gydymffurfio â hwy yn yr hysbysiad cydymffurfio isod.
Ymrwymwn i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o’r safon uchaf i bob un o’n cwsmeriaid mewn ffordd sydd yn deg ac yn gyfartal. Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch neu os ydych wedi cael gwasanaeth rhagorol, hoffem glywed amdano.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r Swyddfa Gwasanaeth Cyhoeddus fel a ganlyn:
Ffôn: 01267226044
E-bost:[email protected]
Cewch fwy o wybodaeth am gyflwyno cwyn ar wefan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu.