Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bob blwyddyn, mae Heddlu Dyfed-Powys yn recriwtio talent newydd i ymuno â’n Rhaglen Interniaeth. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i israddedigion a graddedigion diweddar roi eu gwybodaeth ar waith a hybu eu cyflogadwyedd drwy ennill profiad mewn amgylchedd proffesiynol.
Mae ein rhaglen nid yn unig yn rhoi gwybodaeth werthfawr i fyfyrwyr i gefnogi eu gradd, ond mae’n caniatáu iddynt wneud gwahaniaeth i’n cymunedau hefyd.
Blwyddyn yma, yr ydym yn dyfarnu 3 interniaeth mewn y meysydd busnes:
Mae'r cyflog ar gyfer y rhaglenni interniaeth 12 mis hyn yn sefydlog ar £24,312.
Efallai mai interniaeth â thâl gyda Heddlu Dyfed Powys yw'r lle i chi ddechrau eich gyrfa.
Fel intern, byddwch chi’n cael eich trwytho yng ngwaith beunyddiol eich tîm, tra’n gweithio ar brosiectau arbenigol eraill. Yr ydym eisiau penodi interniaid sydd yn byrlymu â syniadau arloesol, sydd ag etheg gwaith ardderchog, ac sy’n medru gweithio o fewn amgylchedd tîm mewn sefydliad disgybledig.
Gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i wireddu eich potensial llawn drwy gydol eich interniaeth.
Mae ein rhaglenni interniaeth wedi’u llunio i lifo gydag astudiaethau academaidd, felly bydd y dyddiadau cychwyn ym mis Medi 2025.
I gychwyn eich cais am interniaeth, mewngofnodwch i'n porth recriwtio ar-lein a chyflwyno datganiad personol, ynghyd â'ch CV cyfredol.
Dylai eich datganiad personol crynhoi pam eich bod am weithio i ni, pa sgiliau y gallwch eu cyflwyno i'r rôl a sut y byddech am dyfu eich datblygiad personol yn ystod eich interniaeth.
Os ydych ar y rhestr fer, yna gofynnir i chi fynychu cyfweliad lle byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi i asesu a ydych yn ffit da ar gyfer y rôl.
Cyn cyflwyno eich cais, sicrhewch fod eich CV yn gyfredol gyda’ch statws addysg diweddaraf ynghyd ag unrhyw rolau a chyfrifoldebau lle y bo'n berthnasol.
Tynnwch sylw at brofiadau o'ch addysg (a rolau lle y bo'n berthnasol) a nodwch eich cyflawniadau a'ch llwyddiannau megis prosiectau, modiwlau, cyflwyniadau ac ati ar ffurf pwyntiau bwled.
Ynghyd â'ch CV, bydd gennych datganiad personol i arddangos eich sgiliau a'ch profiadau a'ch addasrwydd ar gyfer y rôl yn erbyn proffil y rôl. Gall fod yn ddefnyddiol ystyried yr adran hon fel eich datganiad personol; dyma eich lle chi i ddweud wrthym pam mai chi yw'r person cywir ar gyfer y rôl.
Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y sgiliau a'r wybodaeth rydych wedi'u meithrin drwy eich astudiaethau a chofiwch y gall eich profiadau ddod o'ch addysg, gwaith â thâl, gwirfoddoli neu o'ch bywyd personol lle y bo'n berthnasol.
Fel cyflogwr, yr ydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad personol a phroffesiynol ein hinterniaid, gan roi cyfleoedd i bobl dyfu eu setiau sgiliau a dangos tystiolaeth o’u llwyddiannau.
Lluniwyd ein rhaglenni interniaeth i roi mewnwelediad ichi i’r ffordd y mae ein gwasanaeth heddlu’n gweithredu. Gallwch hefyd ddisgwyl:
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’n rhaglenni interniaeth,