Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Beth wnaeth eich denu at interniaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys? Sut ddaethoch chi i wybod am y rôl?
Ni wnes gais ar gyfer nifer o leoliadau gan fy mod i’n gweld fy ffrindiau i gyd yn cael eu gwrthod ar ôl gwneud cais ar gyfer sawl lleoliad bob dydd. Gwnaeth hynny fy rhwystro. Ond, wrth i’r dyddiad cau agosáu, cysylltodd fy mhrifysgol â mi am leoliad fel intern cyllid ar gyfer yr heddlu.
Gan fod pencadlys yr heddlu’n gymharol agos ataf, ac yn sefydliad parchus i gael profiad, gwnes gais – a chefais gynnig yr interniaeth!
Roedd pawb yn falch, gan wybod ei fod yn le dibynadwy a gwybodus i weithio.
Oherwydd yr anhawster o ran sicrhau lleoliad, a’i natur gystadleuol, roeddwn i’n ffodus iawn i gael fy nerbyn.
Dywedodd fy narlithwyr ei fod yn gyfle i weithredu cyllid gwerslyfrau i sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
Roedd fy ffrindiau’n llawn cyffro drosof. Dywedon nhw y byddai’n safbwynt unigryw, gan fod eu lleoliadau nhw o fewn y sector preifat.
Mae fy amser gyda’r tîm wedi bod yn brofiad dysgu arbennig!
Wrth weithio yn y sector preifat, rydych chi’n ymdrin yn bennaf ag elw/colled, llog a materion treth. Mae’r swydd hon yn cyffwrdd ar y meysydd hynny ond yn canolbwyntio mwy ar gyllidebu, sy’n rhywbeth na wnaethom edrych arno’n fanwl yn y brifysgol.
Mae cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm wedi dangos imi sut rydych chi’n cyfathrebu mewn amgylchedd gwaith a gwnaeth arsylwi ar y ddynameg tîm wneud imi sylweddoli sut yr oedd cemeg dda rhwng pawb a’u bod yn garedig iawn.
Rwy’n gwella fy ngalluoedd cyfathrebu a chydweithio. Hefyd, mae dod i gysylltiad â hawl trosglwyddo arian (y broses o drosglwyddo eitemau o un cyfrif ariannol i un arall) wedi gwella fy hyblygrwydd a’m sgiliau datrys problemau.
Mae cadw cofnodion a chysoni mantolenni wedi mireinio fy sylw i fanylion a hyfedredd dogfennu – gan ddangos cysylltiad â’r brifysgol hefyd, lle’r oedd meysydd yn gorgyffwrdd.
Dechreuais ddefnyddio meddalwedd newydd a gwellais fy effeithlonrwydd o ran y rhaglen Microsoft Excel – mae’r holl sgiliau newydd hyn yn siŵr o’m helpu â swyddi yn y dyfodol.
Beth yw’ch dyheadau gyrfa ar ôl ichi raddio, ac ydych chi’n credu bydd yr interniaeth yn eich helpu ar eich taith i lwyddiant gyrfaol?
Fy mhrif nod ar ôl graddio yw bwrw’n syth i mewn i’r byd cyllid, heb ddargyfeiriadau ffansi. Sicrhau swydd dda yn y maes cyllid sy’n bwysig imi.
O ran yr interniaeth, yn sicr! Mae’n gipolwg ar y swydd go iawn. Mae dysgu mewn sefyllfa cyllid heddlu’n ychwanegu’r blas unigryw hwn i’m profiad. Nid mater o rifau’n unig ydyw; mae’n ymwneud â llywio’r troeon annisgwyl a ddaw gyda chyllidau gorfodi’r gyfraith. Felly ydy, yn sicr, mae’n hwb i’m taith i lwyddiant gyrfaol!
Yn sicr, byddwn yn dweud wrthym am fynd amdani! Os oes gennych ddiddordeb mewn cyllid ac eisiau blas o rywbeth unigryw, mae’r interniaeth yn werthfawr iawn. Rydych chi’n cael chwarae gyda rhifau mewn maes hollol wahanol a defnyddio pynciau rydych chi wedi dysgu mewn modiwlau blaenorol, ac mae’r gymysgedd o orfodi’r gyfraith yn cynnig y gic ychwanegol honno.
Mae’n gyfle i ddefnyddio eich sgiliau mewn sefyllfa sy’n wahanol i’ch swyddfa arferol. Nid yn unig y mae’r tîm hwn yn fedrus, maen nhw’n hynod garedig a chefnogol hefyd, ac yn dysgu llawer ichi.
Yr hyn sy’n dda yw eu bod nhw’n cynnig hyblygrwydd, gan ganiatáu imi weithio gartref pan mae angen. Felly os ydych chi eisiau ychydig o antur yn eich taith cyllid, yr interniaeth hwn yw’r union beth i chi.