Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch yn cyflawni rôl swyddog gwirfoddol lifrog ar droed neu mewn car patrôl. Ni chewch batrolio’n annibynnol hyd nes y byddwch wedi derbyn Statws Patrôl Annibynnol.
Beth fydda i’n ei wneud?
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, byddwch ar reng flaen plismona. Chi fydd un o’r wynebau cyntaf mae pobl yn gweld pan maent ein hangen fwyaf. Bydd pob dydd yn wahanol. Mae rhai o’r pethau y byddwch yn rhan ohonynt yn cynnwys:
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, gofynnwn ichi wirfoddoli am 16 awr y mis o leiaf. Gall hyn gynnwys penwythnosau, nosweithiau a gwyliau banc. Mae hon yn rôl sy’n medru bod yn hyblyg o’ch cwmpas chi a’ch bywyd.
Byddwch chi’n treulio llawer o’ch amser yn yr awyr agored ar droed neu mewn cerbyd patrôl. Bydd gennych rai dyletswyddau dan do, er enghraifft, yn yr orsaf heddlu, y llysoedd, neu mewn lleoliadau busnes preifat. Fodd bynnag, y flaenoriaeth yw plismona amlwg, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymateb i’w hanghenion.
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, cewch eich hyfforddi i ddefnyddio’r un pwerau â swyddogion cyflogedig.
Ein tîm Dysgu a Datblygu fydd yn darparu’ch hyfforddiant cychwynnol. Yr ydym yn cynnig amserlen cyffroes o gyrsiau/cyflwyniadau a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich sifft gyntaf fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Mae hyfforddiant cychwynnol yn cymryd tua 6 mis, gydag un penwythnos o hyfforddiant bob mis ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin, wedi’i gefnogi gan sesiynau a gyflwynir ar-lein a llyfrau gwaith hunan-astudio.
Rhaid eich bod yn rhydd i fynd i’r penwythnosau hyfforddi o 2y.h. ddydd Gwener tan 5y.h. ddydd Sul.
Er mwyn ymuno â’r sesiynau ar-lein a chwblhau’r dysgu hunan-astudio, bydd angen mynediad arnoch i gyfrifiadur neu ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd. Disgwylir i rywfaint o ddysgu gael ei wneud o bell yn eich amser eich hun. Wrth hyfforddi yn y pencadlys, gellir cynnig llety i’r myfyrwyr hynny sy’n byw dros 30 milltir i ffwrdd. Yn anffodus, oherwydd maint y dysgu, nid oes hyblygrwydd ar gyfer methu diwrnod, felly cadwch hyn mewn cof wrth wneud cais.
Unwaith y bydd yr hyfforddiant cychwynnol wedi’i gwblhau, byddwch yn patrolio gyda swyddogion profiadol wrth ichi ddechrau’r cam ‘Patrôl Gyda Chwmni’ i’ch datblygu fel swyddog. Byddwch chi’n derbyn rhaglen hyfforddiant parhaus er mwyn sicrhau bod eich hyfforddiant yn cael ei ddiweddaru’n gyson.
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, bydd gennych fynediad bob amser i’n Proffil Datblygu ac Asesu hefyd, sef system a luniwyd i fonitro a chofnodi’r gwaith da yr ydych yn ei wneud.
Fel Cwnstabl Gwirfoddol, bydd angen y canlynol arnoch:
Bydd ein rhaglen hyfforddi a dysgu cefnogol yn eich helpu i adeiladu ar yr holl sgiliau a rhinweddau hyn drwy gydol eich gyrfa gyda ni.