Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae recriwtio cwnstabliaid gwirfoddol bellach ar gau
Gall ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflwyno cais, fonitro statws eu cais yma.
Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn gyfle unigryw i wneud rhywbeth arbennig, ar eich cyfer chi a’ch cymuned. Mae’n rôl hollbwysig sy’n rhoi profiadau gwerthfawr ichi a hyfforddiant y medrwch ddefnyddio drwy gydol eich bywyd er mwyn cyflawni eich nodau personol neu broffesiynol.
Swyddogion heddlu gwirfoddol sy’n gwisgo’r un lifrai, yn cario’r un offer ac sy’n dal yr un pwerau arestio â swyddogion heddlu cyflogedig yw Cwnstabliaid Gwirfoddol. Byddwch chi’n mynd i leoliadau digwyddiadau gyda swyddogion heddlu cyflogedig, a bydd pob sifft yn wahanol. Pa un ai a ydych chi’n mynd i leoliadau gwrthdrawiadau, ymdrin â digwyddiadau cam-drin domestig, cynnal patrolau amlwg er mwyn rhoi tawelwch meddwl, neu’n gwneud arést – byddwch chi wrth galon plismona o ddydd i ddydd.
Fel Cwnstabl Gwirfoddol yn Heddlu Dyfed-Powys, byddwch chi’n cael eich gwerthfawrogi a’ch cefnogi fel aelod o’r teulu plismona ehangach. Byddwch chi’n dysgu sgiliau newydd, yn gweld pethau newydd, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein cymunedau. Byddwch chi’n gwneud ffrindiau newydd, yn gweld bywyd o safbwyntiau newydd ac yn chwarae rhan allweddol o ran cadw pobl yn ddiogel.
Medrwch weithio fel Cwnstabl Gwirfoddol ochr yn ochr â swydd arall, wrth astudio, neu ar ôl ymddeol. Medrwch ddefnyddio’ch profiad o’ch bywyd personol a’r gwaith i gyflwyno safbwynt newydd a ffordd newydd o edrych ar rai o’n heriau plismona.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu, ennill profiadau newydd, gweithio gydag eraill a rhoi rhywbeth nôl i’r gymuned.
Swyddogion heddlu gwirfoddol yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sydd â phwerau heddlu llawn i gefnogi Swyddogion Heddlu. Maen nhw’n creu cyswllt rhwng yr heddlu a chymunedau lleol.
Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn perthyn i bob math o gefndiroedd. Pobl leol ydynt o gefndiroedd amrywiol ac o bob rhan o’r cymunedau (megis athrawon, ffermwyr, myfyrwyr, rhieni sy’n aros adref ac ati).
Pa un ai a ydynt yn magu teulu, astudio, wedi ymddeol neu’n gweithio llawn/rhan amser, mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn rhan bwysig o’r teulu plismona. Maen nhw’n cyfrannu’n weithredol tuag at roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r rôl, darllenwch yr adran ‘Gwirfoddoli fel Cwnstabl Gwirfoddol’.
Swyddogion heddlu gwirfoddol yw Cwnstabliaid Gwirfoddol sydd â phwerau heddlu llawn i gefnogi Swyddogion Heddlu. Yr ydym yn disgwyl gonestrwydd, unplygrwydd ac ymdeimlad o ymrwymiad gan unigolion sydd eisiau gwneud rhywbeth pwysig yn eu hamser rhydd.
Rhaid i chi fod yn gorfforol ffit gyda sgiliau rhyngbersonol da a’r hunan hyder i ymdrin ag amryw o bobl.
Yr ydym yn gofyn am ymrwymiad o 16 awr o wasanaeth bob mis (4 awr yr wythnos). Mae oriau gwaith yn hyblyg, a bydd angen ichi fod ar gael i fynychu’r cyrsiau hyfforddi cychwynnol a gynhelir ar benwythnosau. Byddwch chi’n cael eich ad-dalu am gostau teithio wrth hyfforddi a phan fyddwch ar ddyletswydd.
Efallai na fydd eich dyletswyddau bob amser yn rhai rhwydd, ond mae’n rôl gwerth chweil sy’n cynnig sialens, amrywiaeth a llawer o foddhad.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â Chwnstabliaid Gwirfoddol, cysylltwch â thîm recriwtio Heddlu Dyfed-Powys:
Mae recriwtio cwnstabliaid gwirfoddol bellach ar gau
Gall ymgeiswyr sydd eisoes wedi cyflwyno cais, fonitro statws eu cais yma.