Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ceir manylion am ein meini prawf cymhwysedd yn llawn yn yr adran 'Ydw i'n gymwys?'. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydym wedi’u hateb, mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol.
Nid oes cyfyngiad uchafswm oed (18 yw’r isafswm oed) cyn belled â’ch bod chi’n gorfforol ffit ac abl er mwyn llwyddo mewn prawf meddygol a phrawf ffitrwydd. Cewch ragor o wybodaeth am hyn ar ein tudalen ‘Ydw i’n Gymwys?’.
Yr ydych yn gymwys i wneud cais i fod yn Gwnstabl Gwirfoddol oni bai eich bod yn SCCH neu rôl Staff Heddlu arall lle byddai potensial ar gyfer gwrthdaro o ran dyletswyddau. Wrth wneud cais ar gyfer y swydd, mae’n rhaid ichi ddweud wrth eich rheolwr llinell.
Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran 'Y Broses Recriwtio' ar ein gwefan.
Noder fod pob cais yn wahanol. Gan hynny, gall gymryd 4-6 mis i gwblhau’r broses recriwtio.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau.
Os ydych chi’n ystyried bod gennych anabledd, rhowch wybod inni am y math o addasiadau a allai fod angen arnoch i’ch cynorthwyo i gymryd rhan yn y broses recriwtio a dethol. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio gwneud yr addasiadau rhesymol sydd angen lle bo modd.
Efallai y cewch dal ymuno â’r gwasanaeth heddlu os oes gennych rybuddion/euogfarnau mân, ond mae rhai troseddau ac amodau a fydd yn eich gwneud yn anghymwys.
Nid yw tatŵau yn eich atal rhag cael eich penodi. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gall rhai tatŵs beri tramgwydd i’r cyhoedd neu gydweithwyr, neu ddwyn anfri ar Wasanaeth yr Heddlu. Am wybodaeth lawn, cyfeiriwch at yr adran ‘Ydw i’n Gymwys?’.
Cewch, cyn belled â bod eich salwch dan reolaeth. Bydd angen i’ch meddyg ddarparu adroddiad meddygol er mwyn cadarnhau hyn.
Os fyddwch chi’n llwyddo i gyrraedd cam archwiliad meddygol y broses recriwtio, bydd angen ichi gael prawf llygaid. Rhaid bod gan recriwtiaid newydd olwg 6/12 o leiaf yn eu llygad dde neu chwith, neu olwg 6/6 o leiaf yn y ddwy lygad. Rhaid bod gan bobl sy’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd olwg 6/36 o leiaf yn y ddwy lygad heb wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd.
Bydd statws ariannol ymgeiswyr yn cael ei wirio. Cynhelir y gwiriadau hyn gan fod mynediad gan swyddogion/staff heddlu at wybodaeth freintiedig a allai eu gwneud yn agored i lygredigaeth.
Gwrthodir ymgeiswyr â dyfarniadau Llys Sirol heb eu talu neu sydd wedi’u cofrestru’n fethdalwyr gyda dyledion sydd heb eu talu.
Na, does dim uchafswm nac isafswm taldra.
Mae dau brawf y mae’n rhaid i bawb sy’n gwneud cais i fod yn Gwnstabl Gwirfoddol gwblhau, sef prawf Crebwyll mewn Sefyllfa a Holiadur Arddull Ymddygiadol. Mae’n rhaid i chi lwyddo yn y ddau brawf hyn er mwyn parhau i’r broses gais.
Os fyddwch chi’n cwblhau’r profion uchod yn llwyddiannus ond yn methu mewn rhan o’r broses recriwtio, ni fydd rhaid ichi sefyll y profion hyn eto os fyddwch chi eisiau gwneud cais arall ar ôl 6 mis.
Yn syml, gallwch. Mae plismona yn rôl gyffrous a heriol, ond nid yw at ddant pawb. Fodd bynnag, gofynnwn i holl ddarpar swyddogion yr heddlu ystyried yr heriau hyn a’u haddasrwydd yn llawn cyn cyflwyno eu cais.
Os byddwch yn methu ar unrhyw adeg o’r broses, bydd yr heddlu yn rhoi gwybod i chi. Mewn achosion lle na fydd yn bosibl i chi ailsefyll, gallwch wneud cais arall o fewn chwe mis i gael gwybod.
Gwasanaeth heddlu gwirfoddol y DU yw’r Heddlu Gwirfoddol, ac mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn patrolio eu hardaloedd lleol gyda phwerau heddlu llawn. Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn chwarae rôl hollbwysig o ran diogelu ein cymunedau a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas wrth ennill sgiliau ychwanegol.
Byddwch chi’n gwisgo’r un lifrai â Swyddog Heddlu cyflogedig, ond bydd ‘CG’ (Cwnstabl Gwirfoddol) ar yr ysgwyddarnau.
16 awr y mis o leiaf.
Does dim terfyn ar nifer yr oriau y medrwch roi. Mae’r rhan fwyaf o’n swyddogion gwirfoddol yn gwirfoddoli o gwmpas eu prif swydd.
Bydd eich llythyr cynnig diamod yn dweud wrthych ba orsaf fyddwch chi’n gweithio ohoni. Os oes gennych hoffter, cewch ddweud wrth y tîm recriwtio, ond mae hyn yn dibynnu ar gapasiti’r tîm plismona yr ydych wedi gofyn am gael ymuno ag ef.
A fyddaf yn rhan o Weithrediadau a digwyddiadau?
Byddwch. Fel Cwnstabl Gwirfoddol, rydych chi’n adnodd pwysig. Gan hynny, byddwch chi’n cael eich defnyddio mewn sawl ffordd, a allai gynnwys cymryd rhan mewn gweithrediadau lleol a mentrau’r heddlu.
Ein tîm Dysgu a Datblygu fydd yn darparu’r holl hyfforddiant. Yr ydym yn cynnig amserlen cyffroes o gyrsiau/cyflwyniadau a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich sifft gyntaf fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys. Mae hyfforddiant cychwynnol yn cymryd tua 6 mis, gydag dau penwythnos o hyfforddiant bob mis ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin, wedi’i gefnogi gan sesiynau a gyflwynir ar-lein a llyfrau gwaith hunan-astudio. Er mwyn ymuno â’r sesiynau ar-lein a chwblhau’r dysgu hunan-astudio, bydd angen mynediad arnoch i gyfrifiadur neu ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd. Disgwylir i rywfaint o ddysgu gael ei wneud o bell yn eich amser eich hun. Wrth hyfforddi yn y pencadlys, gellir cynnig llety i’r myfyrwyr hynny sy’n byw dros 30 milltir i ffwrdd.
Rhaid eich bod yn rhydd i fynd i’r penwythnosau hyfforddi o 2y.h. ddydd Gwener tan 5y.h. ddydd Sul.
Unwaith y bydd yr hyfforddiant cychwynnol wedi’i gwblhau, byddwch yn patrolio gyda swyddogion profiadol wrth ichi ddechrau’r cam ‘Patrôl Gyda Chwmni’ i’ch datblygu fel swyddog.
Swyddogion heddlu gwirfoddol yw Cwnstabliaid Gwirfoddol. Er na fyddwch chi’n cael eich talu, bydd eich hyfforddiant a’ch dyletswyddau’n rhoi profiadau unigryw i chi, sgiliau newydd a gwerthfawr, ac ymdeimlad o gyflawniad wrth ichi wneud rhywbeth gwerth chweil dros eich cymuned. Yr ydym yn talu treuliau, felly ni fyddwch ar eich colled yn ariannol am roi eich amser i Heddlu Dyfed-Powys.
Os fyddwch chi’n gwneud arést fel Cwnstabl Gwirfoddol ac mae’r achos yn mynd i’r llys, efallai bydd angen ichi fynd i’r llys fel tyst neu er mwyn rhoi tystiolaeth.
Byddech. Fe fyddech yn dod o dan yswiriant Heddlu Dyfed-Powys pe baech chi’n cael eich anafu ar ddyletswydd fel swyddog heddlu gwirfoddol.
Bydd bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn eich galluogi i brofi pob agwedd o waith yr heddlu ac ennill cyfoeth o wybodaeth broffesiynol. Mae cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad o fewn yr Heddlu Gwirfoddol drwy ei strwythur rheng ei hun. Fodd bynnag, ni fydd gwasanaethu fel Swyddog Gwirfoddol yn sicrhau y cewch eich cyflogi fel swyddog heddlu, a bydd angen ichi gwblhau’r broses ymgeisio arferol. Byddai angen i Gwnstabliaid Gwirfoddol sy’n ymgeisio ar gyfer y broses swyddog heddlu gwblhau 18 mis o wasanaeth fel Cwnstabl Gwirfoddol cyn y cânt eu penodi.
Wrth gwrs. Yr ydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd eisoes yn Gwnstabliaid Gwirfoddol ac sydd eisiau trosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran ‘Cwnstabliaid Gwirfoddol sy’n Trosglwyddo’.
Peidiwch ag oedi i gysylltu â’r tîm recriwtio drwy anfon e-bost at [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau.