Gall gymryd peth amser i gwblhau’r cylch Recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol.
Ar ddiwedd pob cam o’r broses recriwtio a dethol, cewch wybod pa un ai a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, a gan hynny, yn gymwys i symud ymlaen at y cam nesaf.
Cam 1: Llenwch y ffurflen gais ar-lein
Mae’r broses ymgeisio’n cynnwys tri maes:
- Meini prawf cymhwysedd, gan gynnwys cadarnhau eich cymwysterau. Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3, disgwylir i chi gwblhau prawf a fydd yn profi eich gallu academaidd i weithio ar Lefel 3.
- Prawf Crebwyll mewn Sefyllfa a Holiadur Arddull Ymddygiadol. Mae’n rhaid i chi lwyddo yn y ddau brawf hyn er mwyn parhau i’r broses gais.
- Ffurflen gais. Disgwylir i chi nodi eich manylion personol. Gwnewch yn siŵr fod y ffurflen wedi’i chwblhau’n gywir.
Cyngor ar gyfer cwblhau’ch ffurflen gais
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen y gofynion ar gyfer pob cam yn drylwyr gan y bydd eich cais yn cael ei wrthod os na fyddwch chi’n llwyddo ym mhob adran.
- Gofynnir ichi uwchlwytho copi o’r cymhwyster uchaf sydd gyda chi, felly tynnwch y ffotograffau gofynnol ymlaen llaw.
- Os oes angen addasiadau rhesymol neu weithredu cadarnhaol arnoch, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ticio’r blychau perthnasol ar y ffurflen gais.
- Os ydych chi wedi byw mewn mwy nag un cyfeiriad yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth hon gennych wrth law, gan gynnwys y dyddiadau fuoch chi’n byw yn y cyfeiriadau hynny.
- Os ydych chi wedi derbyn unrhyw euogfarnau neu rybuddion eraill, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth hon gennych wrth law gan fod yn rhaid i chi ddatgelu’r wybodaeth hon.
- Os oes gennych datŵs amlwg (ar yr wyneb, y gwddf, y dwylo a’r elinau), tynnwch y ffotograffau gofynnol ymlaen llaw.
- Os oes gennych unrhyw dystysgrifau ariannol (methdaliad, cytundeb gwirfoddol unigol ac ati), dylech gael copïau o’r rhain yn barod i’w huwchlwytho.
- Wrth gwblhau’r profion ar-lein, gwnewch yn siŵr nad yw’r atalydd naidlenni ymlaen fel y bydd y sgrin brawf yn agor.
- Os fyddwch chi’n cael unrhyw broblemau, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r adran AD cyn gynted â phosibl. Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9y.b. tan 5y.h.
Cam 2: Os fyddwch chi’n llwyddiannus yn y cam ymgeisio, cewch eich gwahodd i gyfweliad ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys*
Cynlluniwyd y broses gyfweld ar gyfer cael darlun mwy cyflawn ohonoch chi fel unigolyn. Mae'n archwilio sut y gallai eich gwerthoedd chi gyfateb â gwerthoedd Heddlu Dyfed-Powys.
Drwy gynnal y cyfweliad hwn, yr ydym yn sicrhau eich bod chi’n dewis y swydd wirfoddol iawn, a bod gennych bob siawns o lwyddo fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r gwerthoedd a'r cymwyseddau yr ydym yn chwilio amdanynt yn y cyfweliad hwn wedi bod drwy broses ymchwilio drwyadl er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol i’r rôl ac yn deg i bawb sy'n cael eu cyfweld. Y rhain yw:
Gwerthoedd
- Gwasanaeth Cyhoeddus
- Tegwch
- Uniondeb
- Tryloywder
Cymwyseddau
- Rydym yn emosiynol ymwybodol
- Rydym yn cymryd perchnogaeth
- Rydym yn darparu, yn cefnogi ac yn ysbrydoli
- Rydym yn gydweithredol
- Rydym yn dadansoddi’n feirniadol
- Plismona deallus, creadigol a gwybodus
Byddwch chi’n cael manylion llawn am yr hyn a ddisgwylir wrthych o leiaf wythnos cyn y cyfweliad.
Oherwydd canllawiau presennol y llywodraeth, cynhelir cyfweliadau drwy alwad fideo gan ddefnyddio Skype, fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i unigolion sy’n methu â defnyddio’r opsiwn hwn. Byddai’r unigolion hyn yn cael eu hystyried ar sail achos wrth achos.
Cam 3: Profion Ffitrwydd Mewn Perthynas â’r Swydd, Asesiadau Biometrig a Geirdaon (ac eithrio’ch cyflogwr presennol)
- Byddwch yn cael eich gwahodd i Bencadlys yr Heddlu er mwyn cwblhau prawf ffitrwydd ac asesiadau biometrig. Bydd y prawf ffitrwydd sy’n gysylltiedig â’r swydd yn asesu pa un ai a ydych chi’n medru bodloni heriau corfforol plismona. Cyn i chi sefyll y prawf ffitrwydd sy’n gysylltiedig â’r swydd, byddwn ni’n eich atgoffa am gynnwys y prawf, ond dylech ddechrau paratoi ar gyfer y cam hwn cyn gynted ag y byddwch chi’n cyflwyno eich cais os nad ydych chi’n gorfforol ffit eto. Er nad oes angen i chi fod yn athletwr i basio’r prawf ffitrwydd sy’n gysylltiedig â’r swydd, mae angen lefel ffitrwydd sylfaenol arnoch.
- Cynhelir asesiadau biometrig, ac mae'r rhain yn cynnwys samplau DNA ac Olion Bysedd a wneir gan Staff a/neu Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys sydd wedi’u hyfforddi pan fyddwch yn ymweld â Phencadlys yr Heddlu.
- Ar yr adeg hon, byddwn yn cysylltu â’ch cyflogwyr blaenorol yn ystod y 3 blynedd diwethaf yn ogystal â’ch canolwyr addysgol/cymeriad enwebedig. Mae’n bwysig fod y wybodaeth ar eich ffurflen gais yn gywir a diweddar. Nid ydym fel arfer yn cysylltu â’ch cyflogwr presennol am eirda hyd nes y byddwch wedi derbyn cliriad galwedigaethol a fetio (cam 4). Bydd Uwch Reolwyr yn adolygu unrhyw salwch a ddatgenid gan gyflogwr blaenorol yn unol â pholisi Rheoli Absenoldebau Salwch Heddlu Dyfed-Powys.
Cam 4: Cwblhau cliriad fetio diogelwch a chael prawf meddygol
Mae’r asesiad meddygol yn syml, a chynhelir archwiliadau golwg, clyw, pwysedd gwaed a màs y corff. Fe’u cynhelir gan nyrs gofrestredig ac ymgynghorydd meddygol yr heddlu. Mae’r asesiadau hyn yn ychwanegol i’r holiadur meddygol y bydd angen i chi lenwi yn ystod y broses recriwtio. Yr ymgeisydd fydd yn talu am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chael llofnod meddyg teulu a stamp practis.
Byddwch chi’n cwblhau ffurflenni yn ystod y broses recriwtio a dethol sy’n ymwneud â gwybodaeth fetio diogelwch, a bydd ein Hadran Safonau Proffesiynol yn cwblhau cliriad a gwiriadau. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos neu fwy, gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol.
Cam 5: Cwblhau gwiriadau geirdaon cyflogwr
Os fyddwch chi’n llwyddiannus ym mhob un o’r camau uchod, byddwn ni’n cysylltu â’ch cyflogwr cyfredol am eirda.
Bydd Uwch Reolwyr yn adolygu unrhyw salwch a ddatgenid gan gyflogwr blaenorol yn unol â pholisi Rheoli Absenoldebau Salwch Heddlu Dyfed-Powys.
Cam 6: Cynnig dyddiad cychwyn ar gyfer Cwrs Hyfforddiant yr Cwnstabliaid Gwirfoddol
Unwaith y bydd yr holl ddogfennau perthnasol wedi cael eu clirio a'u prosesu, ac mae’r broses recriwtio a dethol wedi’i chwblhau, cewch lythyr ffurfiol yn cynnig swydd a dyddiad cychwyn i chi.
Yn ystod y cam hwn, os nad ydych eisoes yn byw o fewn 30 milltir neu 1 awr o bellter cymudo i’ch swydd, bydd gofyn i chi gadarnhau y byddwch yn symud i fyw o fewn y pellter gofynnol hwn.
Cyn eich diwrnod cyntaf, disgwylir i chi –
- Fynd i Bencadlys yr Heddlu er mwyn cael eich mesur ar gyfer lifrai.
- Cwblhau pecynnau hyfforddi cyn ymuno ar-lein.
- Dychwelyd pob dogfen y gofynnwyd amdani i’r tîm recriwtio.