Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A hoffech chi wneud y canlynol ……
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ledled ardal yr heddlu. Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at bobl ifanc rhwng 13 ac 17 oed gyda'r nod o wneud y canlynol:
Fel Cadet Gwirfoddol yr Heddlu, byddwch yn cael cipolwg unigryw ar sut mae gwasanaeth yr heddlu yn cael ei gynnal. Byddwch chi'n cael lifrai i'w gwisgo yn ystod eich amser gwirfoddoli fel Cadet yr Heddlu a byddwch chi'n dysgu popeth am bwerau a gweithdrefnau'r heddlu. Mae gennych hefyd y cyfle i gynorthwyo a dylanwadu ar dimau plismona lleol i wella'r gwasanaeth a ddarparwn i'n cymunedau.
Rydym yn cyfarfod am ddwy awr yr wythnos, ac yn disgwyl i chi fynychu bob wythnos, gan gymryd rhan weithredol mewn ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau.
Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i weithio gyda'ch cymuned leol a'i gwella trwy wirfoddoli ac rydym yn gofyn am ymrwymiad amser o o leiaf tair awr o wirfoddoli bob mis gan ein Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Ar hyn o bryd, mae gennym ni Unedau Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn cyfarfod yn y Drenewydd, Aberhonddu, Rhydaman, Llanelli, Caerfyrddin, a Phenfro
Ewch i www.vpc.police.uk i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Ydych chi’n gallu ysbrydoli, hyfforddi a chefnogi pobl ifanc? Os felly, beth am fod yn Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys.
Nodau Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yw -
Fel Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol bydd eich dyletswyddau’n cynnwys helpu i gyflwyno’r rhaglen hyfforddi yn y cyfarfodydd nos a gynhelir yn wythnosol, cefnogi ein gwirfoddolwyr ifanc i gyflawni eu nodau, yn ogystal â helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u hannog i ddod yn ddinasyddion da o fewn eu cymunedau eu hunain. Mae proffil rôl llawn yr Arweinydd Cadetiaid Cynorthwyol isod.
Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gyfer Arweinwyr Cadetiaid Cynorthwyol Gwirfoddol ar draws ardal yr heddlu o fewn ein 8 uned cadetiaid yn y Drenewydd, Aberhonddu, Rhydaman, Llanelli, Penfro, Aberteifi, Caerfyrddin a Hwlffordd.
Ffurflen gais gwirfoddolwyr Proffil rôl
Os hoffech ragor o fanylion, cysylltwch: [email protected]